Ym mis Ionawr cafodd clybiau chwaraeon cymunedol ar draws Wrecsam wahoddiad i wneud cais i’r Gist Gymunedol am arian i annog mwy o bobl i gymryd rhan ac i wella safonau.
O ganlyniad llwyddodd 57 o glybiau cymunedol i dderbyn arian, dros £66,000 rhyngddyn nhw, i wella eu camp.
Bydd yr arian rŵan yn sicrhau bod dros 300 o gyrsiau addysgu’r hyfforddwr, mewn 13 camp, yn cael eu cynnal.
Mae’r Gist Gymunedol yn fenter gan Chwaraeon Cymru er budd chwaraeon cymunedol a gweithgarwch corfforol.
Mae ar gael i unrhyw glwb cymunedol neu chwaraeon sydd â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn ei enw.
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN