Mae sefydliadau ar draws Gogledd Cymru yn cydweithio er mwyn atgoffa pobl ifanc o’r angen i gadw pellter cymdeithasol yn y rhanbarth ac i helpu i frwydro yn erbyn Covid.
Er fod y mwyafrif o bobl ar draws y rhanbarth yn glynu at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol, mae tystiolaeth anecdotaidd yn dangos nad yw holl bobl ifanc yn dilyn y neges – gan adlewyrchu’r pryderon a godwyd yn genedlaethol.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru o ran cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr yn parhau, yn ogystal â’r cyngor i gadw at y mesurau hylendid. O heddiw (dydd Llun), mae hi’n hanfodol i bawb dros 11 oed wisgo mygydau mewn siopau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi na all mwy na chwech o bobl o aelwyd estynedig gwrdd dan do ar unrhyw adeg (nid yw hyn yn cynnwys plant 10 oed neu iau.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym yn falch o fod yn cymryd rhan yn yr ymgyrch hwn ar fydd yn cael ei gynnal ar draws Gogledd Cymru. Mae cymunedau Wrecsam a Gogledd Cymru wedi chwarae eu rhan i geisio arbed y lledaeniad o Covid-19, ond wrth i ni ddechrau cael mwy o ryddid a gollom ni yn ystod y cyfnod clo, rhaid i ni gymryd gofal ychwanegol.
“Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn parhau i gadw pellter cymdeithasol. Mae Covid-19 yn dal i fodoli ac nid ydym eisiau gweld cynnydd arall yn yr Hydref – dyma’r amser i bawb chwarae eu rhan.
“Mae tystiolaeth ar draws Cymru ac yn anffodus, yma yn Wrecsam nad yw pobl yn cadw pellter cymdeithasol a gobeithiwn y bydden nhw’n cymryd sylw rŵan. Mae ein negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau â phobl ifanc a sefydliadau ieuenctid yn gwneud rhywfaint i annog pawb i gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad a pharhau i gadw pellter cymdeithasol.
“Mae pawb gyda’i gilydd felly rhaid i ni gydweithio i geisio rhwystr cyfraddau Covid rhag cynyddu yn Wrecsam a Gogledd Cymru.”
YMGEISIWCH RŴAN