Rydym ni wedi derbyn llawer o ymholiadau’n ddiweddar gan ein tenantiaid ynglŷn â dynion yn mynd o dŷ i dŷ yn cynnig “gwasanaethau diffyg atgyweirio tai”.
Maen nhw’n honni bod modd iddyn nhw sicrhau bod atgyweiriadau yn cael eu gwneud yn gynt na’r hyn a ddywed y Cyngor.
Maen nhw wedyn yn mynd i mewn i eiddo ac yn tynnu lluniau, gan eu hanfon ymlaen at gyfreithiwr hawliadau.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Credir bod y tenantiaid yn cael eu gorfodi i adael yr unigolion i mewn i’w cartrefi er mwyn iddyn nhw dynnu lluniau a derbyn gwybodaeth bersonol bwysig.
Maen nhw’n gofyn wedyn i’r tenantiaid lofnodi dogfennau ond mae’r dogfennau’n cael eu cadw gan y dynion ac felly does wybod beth mae’r tenant wedi cytuno iddo a’r goblygiadau ariannol ynghlwm wrth hynny.
Mae Safonau Masnach yn argymell yn gryf NAD YDI cwsmeriaid yn delio â galwyr digroeso ar garreg y drws na thros y ffôn, waeth beth fo’r cynnyrch neu’r gwasanaeth a gynigir ganddyn nhw.
Peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i alwyr digroeso a chofiwch, os ydi rhywbeth yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae rhywbeth o’i le yn rhywle. Os ydych chi’n amau unrhyw unigolyn, cadwch nhw allan.
Os oes arnoch chi angen cyngor ynglŷn â hyn neu unrhyw fater cwsmer arall, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 08082 231133.
Os ydych chi’n pryderu ynghylch eich eiddo ffoniwch swyddfa eich stad neu’r tîm atgyweirio tai ar 01978 298993 yn y lle cyntaf i gael gwybod pam bod y gwaith atgyweirio yn cymryd cymaint o amser.
Os ydych chi’n dal yn anhapus, y peth gorau i chi ei wneud ydi cysylltu â chyfreithiwr.
Os ydych chi’n aros am waith atgyweirio, bydd ein tîm atgyweirio tai yn ysgrifennu atoch chi i ofyn i chi drefnu apwyntiad. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cysylltu’n ôl er mwyn iddyn nhw wneud y trefniadau angenrheidiol.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH