Royal Welsh

Mae yna gyfle olaf i gefnogi ein lluoedd arfog eleni pan fydd y Cymry Brenhinol, y Cymdeithion a’r Cadetiaid yn arfer eu hawl i Ryddid Wrecsam trwy orymdeithio trwy’r strydoedd gyda bidogau wedi’u gosod a Lliwiau yn chwifio ar 3 Medi 2022.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Ar gyfer Ailddatganiad Rhyddid y Fwrdeistref, bydd y parêd yn ffurfio ar lawnt Llwyn Isaf ac ar ôl ymchwiliad byddant yn gorymdeithio trwy Wrecsam ar hyd y llwybr canlynol:

  • Ffurfio ar lawnt Llwyn Isaf
  • Sgwâr y Frenhines
  • Stryt Argyle
  • Stryt yr Hôb
  • Stryd Fawr
  • Ffordd Caer
  • Senotaff y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig lle cynhelir gwasanaeth coffa byr.

Bydd y gweithgareddau’n dechrau am 10.40 ar lawnt Llwyn Isaf lle bydd y Maer, y Cynghorydd  Brian Cameron a’r Uwchfrigadydd Chris Barry yn archwilio’r milwyr.  Bydd y saliwtio yn digwydd ar Stryt Caer.

Bydd yr orymdaith yn gadael Llwyn Isaf am 11.25 ac yn cyrraedd y Senotaff am 12.10.

Dywedodd y Maer Brian Cameron, “Unwaith eto, bydd yn fraint cael croesawu’r Cymry Brenhinol ar gyfer eu gorymdaith ailddatganiad ac rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r digwyddiad hwn.  Mae gan y Cymry Brenhinol le arbennig yn ein calonnau ac rwy’n siŵr y bydd y strydoedd yn llawn dop o bobl sydd eisiau dangos eu cefnogaeth.”

Dywedodd Cefnogwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, “Nawr, fwy nag erioed, mae angen i ni werthfawrogi faint mae ein Lluoedd Arfog yn ei aberthu i sicrhau bod ein rhyddid a’n hawliau yn cael eu diogelu.  Weithiau mae hyn yn golygu gwneud yr aberth mwyaf.  Rwy’n edrych ymlaen at ddangos fy ngwerthfawrogiad ar 3 Medi.”

Cafodd y Cymry Brenhinol y fraint o gael Rhyddid Wrecsam yn 2008 a bu iddynt arfer eu hawl i orymdeithio diwethaf yn 2019.

Cymrwch olwg dros ein digwyddiadau yn fis Medi:

Mae The Royston Club yn perfformio fel rhan o galendr o ddigwyddiadau prysur ym mis Medi – newyddion.wrecsam.gov.uk

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH