Yn ddiweddar rydym wedi cael gwybod am gwmni sy’n gweithredu yn yr ardal “Home Rescue UK” sy’n gofyn i denantiaid gysylltu â nhw os oes ganddynt unrhyw faterion atgyweirio fel lleithder a llwydni, gollyngiadau neu ddifrod i’r plastr.
Os ydynt yn gweithredu fel cwmnïau eraill byddant yn cynnig arolwg eiddo am ddim a byddant yn sicrhau bod atgyweiriadau yn cael eu cynnal ac yn defnyddio cwmni cyfreithiol i gael iawndal i chi.
Er mwyn cwblhau’r arolwg hwn bydd angen iddynt gael mynediad i’ch tŷ i dynnu lluniau a fydd yn cael eu hanfon ymlaen at y cyfreithiwr hawliadau. Efallai byddant yn cymryd gwybodaeth bersonol arall gennych ac yn gofyn i chi lofnodi dogfennau y byddant yn mynd gyda nhw.
Mae Safonau Masnach yn argymell yn gryf NAD YDI cwsmeriaid yn delio â galwyr digroeso ar garreg y drws na thros y ffôn, waeth beth fo’r cynnyrch neu’r gwasanaeth a gynigir ganddyn nhw.
Peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i alwyr digroeso a chofiwch, os ydi rhywbeth yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae rhywbeth o’i le yn rhywle. Os ydych chi’n amau unrhyw unigolyn, cadwch nhw allan.
Os oes arnoch chi angen cyngor ynglŷn â hyn neu unrhyw fater cwsmer arall, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 08082 231133.
Os ydych chi’n pryderu ynghylch eich eiddo ffoniwch swyddfa eich stad neu’r tîm atgyweirio tai ar 01978 298993 yn y lle cyntaf i gael gwybod pam bod y gwaith atgyweirio yn cymryd cymaint o amser.
Os ydych chi’n dal yn anhapus, y peth gorau i chi ei wneud ydi cysylltu â chyfreithiwr.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN