Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Anrhydedd Dinesig ar gyfer staff sy’n gweithio ar ran personél y lluoedd arfog
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Anrhydedd Dinesig ar gyfer staff sy’n gweithio ar ran personél y lluoedd arfog
ArallY cyngor

Anrhydedd Dinesig ar gyfer staff sy’n gweithio ar ran personél y lluoedd arfog

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 26, 2020 4:05 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Civic Honour
RHANNU

Ym mis Ebrill 2013, fe wnaethon ni, y lluoedd arfog a’n sefydliadau partner, lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog.  Dyna oedd dechrau’r daith yr ydym yn parhau i fod yn arni i sicrhau nad yw aelodau’r lluoedd arfog sy’n dychwelyd i fyw yn Wrecsam o dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth i’w gwlad.

Mae’r gwaith a wnaed ers 2013 wedi golygu ein bod wedi ailedrych ar ein polisïau mewn meysydd gwasanaeth megis tai i wirio nad yw cyn aelodau’r lluoedd arfog dan anfantais o’u herwydd.  Rydym wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid i ddatblygu ein gwaith ymhellach ac rydym wedi gweld prosiectau tai yn cael eu cyflawni ar gyfer aelodau’r lluoedd arfog sydd angen cymorth ychwanegol gyda materion iechyd o ganlyniad i’w gwasanaeth.

COFRESTRWCH I DALU AM GASGLIADAU BIN

Yn ddiweddar rydym wedi ail-ystyried ein polisïau recriwtio a chyflogaeth i sicrhau eu bod yn cefnogi cymuned y lluoedd arfog yn unol â Chyfamod y Lluoedd Arfog ac o ganlyniad i’r gwaith hwn rydym wedi derbyn gwobr arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn. Mae’r wobr yn nodi ein bod yn gyflogwr sy’n croesawu’r lluoedd arfog ac yn cefnogi cymuned leol y lluoedd arfog drwy ein prosesau recriwtio.

Cydnabuwyd y wobr yn ffurfiol gan y Maer, y Cyng. Rob Walsh a wahoddodd y staff i gyfarfod gydag ef cyn cyfarfod y Cyngor heno i gydnabod eu llwyddiant yn ffurfiol gydag Anrhydedd Dinesig.

Dywedodd y Maer: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi derbyn gwobr arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn. Rydym wedi dangos ein bod yn mynd ati’n weithgar i gefnogi cymuned leol y lluoedd arfog drwy ein proses recriwtio.  Rydym yn falch iawn o’r wobr hon a’r hyn y mae’n ei olygu ar gyfer Wrecsam, o ystyried ein traddodiad milwrol balch.  Diolch yn fawr iawn i’n staff, cyfredol a blaenorol, sydd wedi bod yn allweddol i gyflawni’r safon hon.

Rhoddir Gwobr Balchder Bro gan y Maer i unrhyw un yn y fwrdeistref sirol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol ac ystyrlon i’r gymuned ac wedi dod â balchder bro i Wrecsam.  Byddant wedi’u cydnabod yn genedlaethol drwy wobr, tlws neu dystysgrif a fydd yna’n cael ei ddathlu’n ffurfiol yn y Cyngor Llawn.

Er mwyn cyflawni Cydnabyddiaeth Arian Cyflogwyr Amddiffyn dylai sefydliadau gyflawni’r canlynol:

  • Sefydliadau wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog.
  • Mae’n rhaid i’r cyflogwr fod wedi nodi eu bwriad i fod yn gefnogol drwy ddefnyddio gwefan ERS i gofrestrur Lefel Efydd.
  • Mae’n rhaid i’r cyflogwr ddangos nad yw personél gwasanaeth / cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o’u prosesau recriwtio a dethol.
  • Mae’n rhaid i gyflogwyr gyflogi o leiaf un unigolyn o gategori Cyfamod y Lluoedd Arfog (Milwr wrth gefn, cyn-filwr, cymar / partner milwrol, Oedolyn sy’n Gwirfoddoli gyda Llu Cadetiaid (CFAV).
  • Mae’n rhaid i’r cyflogwr sicrhau bod eu gweithlu yn ymwybodol o’u polisïau cadarnhaol tuag at faterion Pobl Amddiffyn (e.e. Polisi AD cadarnhaol sy’n cael ei hyrwyddo’n fewnol ar gyfer Milwyr Wrth Gefn, neu, os nad oes polisi AD, dylid dangos cefnogaeth drwy gyfeiriadau penodol mewn swydd-ddisgrifiadau neu ar wefan y sefydliad).
  • O fewn cyd-destun Milwyr wrth Gefn mae’n rhaid i’r cyflogwr fod wedi dangos cefnogaeth ar gyfer byddiniad neu bod fframwaith yn ei le.
  • Mae’n rhaid i’r cyflogwr ddangos cefnogaeth ar gyfer hyfforddiant drwy ddarparu o leiaf 5 diwrnod o wyliau ychwanegol.
  • Ni ddylai’r cyflogwr fod yn destun unrhyw Gysylltiadau Cyhoeddus negyddol neu sylw yn y cyfryngau a allai beri embaras i’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Darllenwch fwy am Gynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn

Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://beta.wrecsam.gov.uk/service/beth-syn-mynd-ir-bincynwysyddion-ailgylchu/gwasanaeth-casglu-gwastraff-gardd”] RYDW I EISIAU TALU RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol St David's Day Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi! Byddwch yn rhan o Orymdaith 2020 yng nghanol y dref.
Erthygl nesaf Wrexham students experience cultural ‘trip of a lifetime’ to New York Ysgol Bryn Alyn Myfyrwyr Wrecsam yn profi taith ddiwylliannol unwaith mewn oes i Efrog Newydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English