Cafodd gwaith caled sêr chwaraeon mwyaf Wrecsam a gwirfoddolwyr chwaraeon cymunedol yn y sir ei ganmol mewn seremoni wobrwyo.
Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon CBSW 2019 mewn seremoni yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasu Brymbo.
Roedd categorïau’r gwobrau’n ymwneud â phob lefel o chwaraeon cymunedol – ac roedd hyd yn oed ambell uniholyn a oedd wedi cystadlu ar y llwyfan byd-eang.
Y rhai a enillodd ym mhob categori oedd:
- Personoliaeth Chwaraeon: Sabrina Fortune
- Sefydliad: Clwb Bowlio Bradley Park a Chlwb Pêl-droed Brickfield Rangers
- Cefnogwr NERS (Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff): Enis Stevens
- Gwasanaeth i Chwaraeon: Tony Birch (Gwobr ar ôl marwolaeth)
- Hyfforddwr y Flwyddyn: Kieran Howard
- Personoliaeth Chwaraeon Iau: Daniel Thompson
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn: Delwyn Derrick
- Personoliaeth Chwaraeon Anabl y Flwyddyn: Sabrina Fortune
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi, sydd â chyfrifoldeb am Hamdden: “Roeddwn i’n falch iawn o allu mynd i seremoni’r Gwobrau Chwaraeon, a chefais gyfle i gyfarfod llawer o’r sêr chwaraeon, yr hyfforddwyr a’r gwirfoddolwyr a enwebwyd yn ystod y noson.
“Mae ymdrech pob un ohonynt yn eu maes penodol yn arbennig, ac mae’n dda ein bod ni’n cydnabod bod cymaint o’r byd chwaraeon cymunedol yn Wrecsam yn dibynnu arnyn nhw a’u hymdrechion.
“Mi hoffwn i hefyd longyfarch pob un a enillodd ar y noson – maen nhw’n llawn haeddu eu gwobrau.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR