Mae staff Cyngor Wrecsam sydd â chyswllt rheolaidd gyda Phlant sy’n Derbyn Gofal nawr yn gallu defnyddio ap newydd – “Mind of My Own” – i’w helpu i wybod yn sydyn ac yn hawdd sut mae plant a phobl ifanc yn teimlo.
Mae’r ap Mind of My Own yn hawdd ac yn hwyl i blant ei ddefnyddio a bydd yn cael ei ddefnyddio yn Wrecsam y mis hwn.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae yna ddwy nodwedd – yr ap One ac Express. Mae’r ap One yn helpu pobl ifanc i fynegi eu barn mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw. Gallant greu eu cyfrif eu hunain ar yr ap One, a gellir ei ddefnyddio ar unrhyw ddyfais. Mae Express yn ap hygyrch i blant iau a’r sawl ag anghenion ychwanegol a defnyddir gan staff i helpu pobl ifanc fynegi eu barn.
Sut mae Mind of My Own yn gweithio?
Unwaith mae person ifanc wedi defnyddio naill ai’r ap One neu Express i rannu eu barn, dymuniadau a theimladau, mae Mind of My Own yn creu datganiad clir o’u barn y gellir eu cynnwys gyda chofnodion achos, gan arbed amser gwerthfawr i staff. Gall person ifanc gofrestru ar gyfer ap One eu hunain a bydd staff yn eu hannog i’w ddefnyddio.
Beth mae pobl ifanc yn ei ddweud am Mind of My Own?
Mae pobl ifanc sydd eisoes wedi’i ddefnyddio wedi ei gymeradwyo.
“Dwi’n teimlo bod siarad fel hyn yn llawer haws, mae’n chwyldroadol.” – Cara, 16 oed, plentyn mewn angen.
“Mae wedi gwneud imi feddwl dros fy hun. Ap da iawn ac yn hawdd iawn i’w ddefnyddio.” – Becky, 15 oed mewn gofal
Mae staff yn derbyn hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r apiau Mind of My Own, fel eu bod yn teimlo’n hyderus yn ei gyflwyno i blant a phobl ifanc.
Meddai’r Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Mae’n bwysig fod plant a phobl ifanc yn derbyn y gofal a’r gefnogaeth maent ei angen a gallwn wneud hyn drwy wrando a deall sut maent yn teimlo. Drwy ddefnyddio’r ap byddant yn gallu dangos sut maent yn teimlo gan ganiatáu i staff ymateb yn gyflym ac yn briodol. Gobeithio y bydd staff a’r sawl sy’n eu gofal yn teimlo bod yr ap yn ddefnyddiol ac o gymorth mawr i bawb dan sylw.”
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19