Mae trigolion Wrecsam yn cael eu hannog i lawrlwytho ap newydd Covid-19 y GIG… a helpu i ddiogelu eu hanwyliaid yr hydref hwn.
Wedi’i lansio heddiw, yr ap yma ydi’r arf diweddaraf i frwydro yn erbyn y feirws. Mae’n eich helpu chi i gofnodi’r llefydd rydych chi wedi’u hymweld â nhw drwy sganio codau QR mewn siopau, tafarndai, bwytai a lleoliadau eraill.
Os ydych chi wedi bod yn rhywle lle mae posibl eich bod chi wedi dod i gysylltiad â’r feirws, byddwch yn derbyn hysbysiad gan i GIG.
Os ydych chi’n derbyn prawf Covid-19 positif, byddwch yn gallu defnyddio’r ap i roi gwybod i olrheinwyr cyswllt lle’r ydych chi wedi bod – gwybodaeth a all fod yn hanfodol i helpu i atal lledaeniad y clefyd.
LAWRLWYTHWCH YR AP RŴAN
Lawrlwytho’r ap er lles Wrecsam
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol:
“Ynghyd â chadw pellter cymdeithasol, gall yr ap yma fod yn bwysig iawn yr hydref yma… i helpu olrheinwyr cyswllt i ganfod pobl a all fod wedi dod i gysylltiad â’r feirws yn gyflym.
“Felly cofiwch ei lawrlwytho a’i ddefnyddio i sganio codau QR y mannau rydych chi’n ymweld â nhw.
“Mwyaf y defnyddwyr, mwya’r effaith.”
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:
“Os oes gennych chi ffôn clyfar yna, os gwelwch yn dda, lawrlwythwch yr ap.
“Gwnewch hyn er eich lles eich hun, eich teulu a’ch ffrindiau. Gwnewch hyn er lles y GIG. Er lles eich cymuned.
“Rydym ni’n mynd trwy’r argyfwng yma gyda’n gilydd a dw i’n hynod falch o’r ffordd y mae Wrecsam wedi chwarae ei rhan yn y frwydr yn erbyn Covid-19.
“Daliwch ati. Cadwch at y rheolau cadw pellter cymdeithasol a defnyddiwch yr ap yma gymaint â phosibl.”
Sut mae defnyddio codau QR i fewngofnodi i lleoliad
Gofyn i fusnesau arddangos codau QR
Mae Llywodraeth Cymru a’r DU yn annog busnesau i arddangos codau QR… er mwyn i ymwelwyr sganio’r codau gyda’r ap.
Po fwyaf y busnesau sy’n arddangos y codau, y mwyaf fydd gallu defnyddwyr yr ap i gofnodi’r llefydd maen nhw wedi ymweld.
Gall busnesau yn Wrecsam sydd eisiau arddangos poster cod QR a chefnogi’r GIG, greu un a’i lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth y DU.
https://www.gov.uk/create-coronavirus-qr-poster
Nodweddion eraill
Mae’r ap yn cynnwys amrywiaeth o nodweddion eraill, gan gynnwys:
- Hysbysiadau os ydych chi wedi bod yn agos at ddefnyddwyr eraill sydd wedi derbyn prawf positif
- Gwybodaeth am lefel y risg yn eich ardal cod post
- Cymorth i wirio symptomau a phenderfynu a oes angen prawf arnoch chi
- Cymorth i archebu prawf
- Offeryn cyfri i’ch helpu chi gadw cyfrif os bydd arnoch chi angen hunan-ynysu
Lawrlwythwch yr ap rŵan
Mae’r ap ar gael ar Google Play (Android) a’r
LAWRLWYTHWCH YR AP RŴAN