Mis Ebrill yw Mis y Plentyn Milwrol, sy’n tynnu sylw at rôl bwysig plant milwyr yng nghymuned y Lluoedd Arfog.
Mae’n gyfle i gefnogi teuluoedd y Lluoedd Arfog a’u plant oherwydd yr aberth maen nhw’n ei wneud bob dydd a’r heriau maen nhw’n eu goresgyn.
Dydd Gwener 28 Ebrill mae hi’n ‘Ddiwrnod Piws’ yn annog ysgolion i addurno gyda gwaith celf ar thema dant y llew piws, gwisgo piws i’r ysgol a chodi arian ar gyfer elusen y Lluoedd Arfog.
I gydnabod ‘Diwrnod Piws’ bydd Neuadd y Dref yn cael ei oleuo ddydd Gwener 28 Ebrill, i nodi’r achlysur.
Meddai’r Cynghorydd Beverley Parry Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae gan Wrecsam hanes hir a balch o gefnogi’r lluoedd arfog, a dydd Gwener byddwn yn cydnabod rôl bwysig pobl ifanc yng Nghymuned y Lluoedd Arfog.”