Os yw eich plentyn yn cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf, neu os yw’n dymuno gwneud, mae pedwaredd wythnos y gwyliau haf yn arbennig ar eu cyfer nhw.
Thema’r sialens eleni yw chwaraeon a gemau, ac mae Llyfrgelloedd Wrecsam a’r Asiantaeth Ddarllen yn ymuno ag Xplore i gynnal sesiynau gwyddorau chwaraeon ar gyfer y teulu.
Edrychwch ar y rhestr o lyfrgelloedd a sesiynau ‘Ar eich Marciau, Barod, Darllenwch!’ isod. Mae’r holl sesiynau yn rhad ac am ddim ac yn addas i blant 4-11 oed:
Dydd Llun, 14 Awst
Llyfrgell Y Waun 11am-12pm
Llyfrgell Rhos 2-3pm
Dydd Mawrth, 15 Awst
Llyfrgell Brynteg 11am-12pm
Llyfrgell Llai 2-3pm
Dydd Mercher, 16 Awst
Llyfrgell Wrecsam 11am-12pm / 2-3pm
Dydd Iau, 17 Awst
Llyfrgell Rhiwabon 11am-12pm
Llyfrgell Cefn Mawr 2-3pm
Dydd Gwener, 18 Awst
Llyfrgell Coedpoeth 11am-12pm
Llyfrgell Gwersyllt 2-3pm