Mae’r dyddiau’n ymestyn, mae’r cennin Pedr yn blodeuo, ac mae’n amser delfrydol i ddechrau o’r newydd! Y gwanwyn hwn, rydyn ni’n cefnogi ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha.
Gwastraff bwyd
Er bod y rhan fwyaf ohonom yn gwybod na ddylai bwyd fyth fynd i’r bin sbwriel, gwastraff bwyd yw cynnwys chwarter y bin sbwriel cyffredin yn dal i fod. Ac yn syfrdanol, gallai 80% o’r bwyd hwn fod wedi cael ei fwyta, sy’n costio £84 y mis i’r cartref 4 person cyfartalog. Dyna arian (a phrydau bwyd posibl!) yn mynd yn syth i’r bin.
Mae’r gwanwyn yn amser ar gyfer dechrau o’r newydd, felly beth am roi adfywiad i’ch arferion bwyd hefyd? Drwy fanteisio i’r eithaf ar y bwyd a brynwch, ac ailgylchu’r hyn na allwch chi ei fwyta, byddwch yn arbed amser, yn lleihau gwastraff.
Gwnewch eich prydau bwyd yn WYCH! Lleihau gwastraff a chael mwy o flas
Defnyddiwch y tameidiau olaf o lysiau, cig dros ben, neu datws unig i roi hwb i brydau bwyd hawdd pan fydd amser yn brin a chithau angen pryd cyflym i chi’ch hun, eich cyd-letywyr, neu’ch teulu. Lleihau gwastraff, cael mwy o flas, a chreu prydau blasus mewn munudau. Dyma ychydig o ysbrydoliaeth:
- Pasta un pot – Oes gennych chi lond dwrn o fadarch, ychydig o frocoli, pupurau, neu hyd yn oed gig dros ben? Taflwch nhw yn eich pasta am bryd o fwyd cynhesol, diwastraff.
- Tosti caws epig – Rhowch wedd newydd ar y tosti caws clasurol drwy ychwanegu tameidiau dros ben o’r oergell – pethau fel ham dros ben, sbigoglys a thomatos wedi’u sleisio!
- Pwdin iogwrt – Achubwch ffrwythau aeddfed, briwsioni teisen neu gnau ar ei ben, ac ychwanegu mêl neu jam i greu trît melys!
Os na alli di ei fwyta fe, AILGYLCHA FE!
Wrth i chi greu eich seigiau gwych, cofiwch ailgylchu’r darnau na allwch chi eu bwyta – fel crwyn banana, coesynnau a chrafion anfwytadwy, esgyrn a phlisg wyau.
Yn Wrecsam rydym yn ceisio ei gwneud hi’n hawdd i bawb ailgylchu eu gwastraff bwyd trwy ein gwasanaeth ailgylchu wythnosol, ac rydym yn cynnig cadi bwyd a leinwyr bwyd am ddim i’n holl breswylwyr. Yn anffodus, y realiti yw bod llawer o fwyd yn dal i fynd i wastraff cyffredinol ein preswylwyr, a allai fod wedi cael ei ailgylchu.
Does dim modd osgoi rhywfaint o wastraff bwyd, felly gwnewch yn siŵr fod yr holl eitemau gwahanol hyn fel plicion ac esgyrn bwyd yn cael eu hailgylchu. Gallwch gael manylion y pethau y gellir eu hailgylchu ar ein gwefan.
Gwnewch yr addewid i achub eich bwyd rhag y bin sbwriel ac ENNILL
P’un a ydych chi gartref, neu allan, mae’n bryd inni fod yn graff gyda gwastraff bwyd.
Gwnewch addewid i achub eich bwyd rhag y bin sbwriel. Fe wnewch chi arbed amser, arbed arian – ac fe allech chi ennill gwobr Gymreig flasus!
Ewch draw iCymru yn Ailgylchu i gymryd rhan.
Gallwch hefyd ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha neu #BeMightyRecycle – beth am rannu eich tips arbed bwyd?
Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch
Os ydych yn cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost ar Wybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu, gallwn anfon ein straeon newyddion diweddaraf ac argymhellion i chi, er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan o’ch ailgylchu, cyngor lleol (gan gynnwys newidiadau sy’n effeithio arnoch chi), a manylion ar ymgyrchoedd sydd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt.
Ydych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?
Pan fyddwch chi’n cofrestru i dderbyn y rhybuddion, fe fyddwch chi’n cael e-bost i’ch atgoffa cyn eich casgliad nesaf, ond mae hefyd yn ffordd dda i ni gysylltu â chi am unrhyw amhariadau allai effeithio ar y gwasanaeth. Os hoffech chi e-byst i’ch atgoffa am eich bin, cliciwch yma a dilynwch y ddolen i gofrestru.
Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2025/26 – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Ebrill!