Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Teuluoedd mabwysiadol yn rhannu eu profiadau gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Teuluoedd mabwysiadol yn rhannu eu profiadau gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru
Y cyngorArall

Teuluoedd mabwysiadol yn rhannu eu profiadau gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 11, 2025 10:01 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Yn ddiweddar, fe wnaeth teuluoedd sydd wedi gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl ifanc trwy gynnig cartrefi sefydlog a chariadus gyfarfod â Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
RHANNU

Yn ddiweddar, fe wnaeth teuluoedd sydd wedi gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl ifanc trwy gynnig cartrefi sefydlog a chariadus gyfarfod â Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Galwodd Dawn Bowden AoS heibio i gyfarfod â theuluoedd mabwysiadol mewn sesiwn ‘chwarae ac aros’ yn Sychdyn yn Sir y Fflint, ac i glywed am eu profiadau a’r llu o wobrau (a heriau) sy’n dod gyda mabwysiadu plentyn.

Fe wnaeth y Gweinidog hefyd gyfarfod â chynrychiolwyr Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi mabwysiadu ar draws y rhanbarth.

Mae sesiynau ‘chwarae ac aros’ yn un o’r ffyrdd y mae’r gwasanaeth yn cefnogi teuluoedd sydd wedi mabwysiadu plentyn yn ddiweddar, ac wedi’u cynllunio i helpu pobl i gyfarfod â mabwysiadwyr eraill ac adeiladu rhwydwaith cymorth.

Cyflwynwyd y Gweinidog hefyd i blant hŷn a fabwysiadwyd, a siaradodd am bwysigrwydd tyfu i fyny mewn cartref gofalgar a chariadus.

Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol: “Mae wedi bod yn wych cwrdd â theuluoedd mabwysiadol yn y sesiwn Chwarae ac Aros a chlywed pa mor werthfawr yw mabwysiadu.

“Ym mis Tachwedd, dathlodd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ei ben-blwydd yn 10 oed. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol at wella canlyniadau i fabwysiadwyr a phlant.

“Rwy’n falch o waith y Gwasanaeth ac yn diolch i fabwysiadwyr ledled Cymru sy’n gwneud penderfyniadau pwysig sy’n newid bywydau plant.”

Rheolir Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru gan Gyngor Wrecsam ar ran pob un o’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru (Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn).

Rhian Thomas, yng Nghyngor Wrecsam: “Mae cymaint o blant angen cartrefi diogel, sefydlog yng Ngogledd Cymru, a’n blaenoriaeth yw dod o hyd i deulu i’w caru a gofalu amdanynt.

“Roedd ein teuluoedd mabwysiadol wedi mwynhau cyfarfod â’r Gweinidog yn fawr, ac roedd yn gyfle da i siarad am sut y gallwn annog mwy o bobl i ystyried mabwysiadu.

“Mae mabwysiadu plentyn yn benderfyniad sy’n newid bywyd ac yn llawn eiliadau gwerth chweil… ond nid yw’n dod heb ei heriau, ac rydym yma i gefnogi pobl drwy bob cam o’u taith.”

I gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu, ewch i wefan Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru.

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam wedi ennill 'Dinas Coed y Byd 2024' am drydedd flwyddyn yn olynol Wrecsam wedi ennill ‘Dinas Coed y Byd 2024’ am drydedd flwyddyn yn olynol
Erthygl nesaf Arbed amser, arbed arian – Bydd Wych. Ailgylcha. Arbed amser, arbed arian – Bydd Wych. Ailgylcha.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English