Mae ffordd wych o arbed arian yn Gymraeg ac yn Saesneg!
Os ydych yn darllen cylchgrawn bob wythnos, gallech arbed dros £100 gyda’ch cerdyn llyfrgell ac rydym yn falch o ddweud bod teitlau Cymraeg yn cael eu hychwanegu at y rhestr o gylchgronau sydd ar gael!
KIDS IN SCHOOL? FIND OUT IF YOU CAN APPLY FOR HELP TOWARDS SCHOOL UNIFORM COSTS AND MORE…
Mae Y Wawr (cylchgrawn hamdden wedi’i anelu at ferched), Barddas (cylchgrawn barddoniaeth bob chwarter) a Mellten (cylchgrawn i blant bob chwarter) nawr ar gael yn rhad ac am ddim i bob deiliad cerdyn llyfrgell! Ewch i’n prif wefan a dilynwch y ddolen ‘e-gronau’.
Dyma rai enghreifftiau o’r arian y gallech ei arbed:
Os ydych chi’n darllen cylchgrawn Hello!, fe allech arbed £104 y flwyddyn.
Ydych chi’n darllen Chat, Woman neu Best? Yna fe allech arbed £145 y flwyddyn.
Os ydych chi’n prynu cylchgrawn Golf, fe allech arbed dros £51 y flwyddyn.
Ac os ydych chi’n prynu cylchgrawn World Soccer, fe allech arbed tua £54 y flwyddyn.
Felly cofiwch, ewch i’n prif wefan a dilynwch y ddolen ‘e-gronau’.
Need help with school uniform costs? Find out if you’re eligible.
APPLY FOR A PUPIL DEVELOPMENT GRANT