Erthygl gwadd – Ein Tirlun Darluniadwy
Bydd yr arddangosfa awyr agored ‘Custodians’ sy’n canolbwyntio ar y rhai sy’n gofalu am dirwedd Dyffryn Dyfrdwy yn cael ei chynnal yn dilyn y Pasg.
Fel rhan o brosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn Nyffryn Dyfrdwy, mae’r Artistiaid Preswyl, Jessica a Philip Hatcher-Moore wedi cyfweld a thynnu lluniau o’r bobl leol sy’n gofalu am y dirwedd.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae Jessica wedi ysgrifennu disgrifiad am bob un o’r unigolion sy’n cyd-fynd â lluniau a dynnwyd gan Philip. Cyfunwyd y rhain ar fyrddau i’w harddangos ar y dirwedd.
Arddangoswyd pump o’r byrddau hyn yng Ngwarchodfa Natur Wenffrwd ym mis Hydref 2021, a bydd modd gweld yr arddangosfa lawn sy’n cynnwys deg bwrdd ar hyd y llwybr rhwng gorsaf Berwyn a’r Bont Gadwyni, Llangollen, ym mis Ebrill 2022.
Mae’r Rheilffordd hefyd yn awyddus i arddangos y gwaith yn eu digwyddiad lansio yng Nghorwen pan fydd yr orsaf yn agor yn ffurfiol yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Bydd modd gweld yr arddangosfa mewn lleoliadau eraill yn Nyffryn Dyfrdwy dros y misoedd nesaf.
Bydd y gwaith partneriaeth yn caniatáu i ragor o bobl, pobl leol yn ogystal ag ymwelwyr â’r ardal, ymgysylltu â’r lluniau a’r straeon a gasglwyd gan Hatcher-Moores yn ystod eu cyfnod preswyl.
Meddai Jessica Hatcher-Moore;“Rwy’n credu bod gan bob ardal gymeriadau nodweddiadol, ond rwy’n credu bod hynny’n arbennig o wir yma yn Nyffryn Dyfrdwy. Fel y gwelir yn y straeon, mae tirwedd ddramatig yr ardal wedi bod yn ysbrydoliaeth i nifer o bobl dros y canrifoedd, ac mae wedi bod yn bleser archwilio’r effaith y mae’n parhau i’w chael ar bobl hyd heddiw.
“Y peth amlycaf i mi o’r straeon hyn oedd yr ysbryd cymunedol sy’n parhau i ffynnu yn Nyffryn Dyfrdwy – a’r ffordd y mae’r dirwedd, a’i hanes cymdeithasol a naturiol cyfoethog, yn cefnogi hynny.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am roi’r cyfle i ni i archwilio’r straeon hyn”.
Meddai Philip Hatcher –Moore: “Mae arddangos y lluniau hyn yn yr awyr agored ac ar y dirwedd lle cawsant eu tynnu yn ychwanegu dimensiwn arall at y gwaith, gyda’r cydadwaith rhwng golau a chysgodion yn y lluniau” meddai’r ffotograffydd, Philip Hatcher-Moore, sy’n arbenigo mewn arddangosfeydd awyr agored o’i waith.
Dywedodd Phil Coles, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen: “Mae Rheilffordd Llangollen yn falch o helpu’r AHNE lleol drwy’r prosiect hwn, a gobeithiwn y bydd yn helpu ymwelwyr â’r ardal i ddeall mwy am hyfrydwch Dyffryn Dyfrdwy.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH