Mae’r Arddangosfa Gwaith Chwarae yn boblogaidd tu hwnt. Mae’r oriel yn Nhŷ Pawb wedi’i thrawsnewid yn le chwarae antur dan do ac er nad yw ond wedi bod ar agor ers ychydig dros wythnos, mae’n boblogaidd iawn gyda’r ymwelwyr dros 3,000 oed.
Mae yna lawer o bethau ar gyfer plant, gan gynnwys chwarae gyda 16 tunnell o dywod! Mae’r plant wrth eu bodd yn gwneud pebyll, yn dringo, neidio, mynd i fyny ac i lawr y polyn diffoddwyr tân ac yn cael hwyl mas draw yn chwarae fel y mynnon nhw!
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Os nad ydych chi wedi bod eto, mae’n werth i chi fynd – bydd eich plant wedi gwirioni. Mae’r lle chwarae ar agor tan 27 Hydref.
Mae ar agor o 9am tan 5pm ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a thra mae’r plant yn cael hwyl yn chwarae fe allwch chi fynd o gwmpas y stondinau marchnad neu gael paned yn y lle bwyd.
Cadwch lygad allan am fwy o wybodaeth am y Gwaith Chwarae, gan ein bod ni’n bwriadu cyfweld â rhieni a phlant yn fuan iawn i weld beth yw eu fersiwn nhw o waith chwarae.
Mae’r arddangosfa wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau a Busnes Cymru Noddwyd gan y cwmni o Wrecsam, Grosvenor ApTec Ltd.
Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION