Ysbyty Llannerch Banna: Hanes Cymuned Bwylaidd yng Nghymru
Digwyddiadau rhyngwladol a hanes lleol yn dod ynghyd yn Ysbyty Llannerch Banna: Hanes Cymuned Bwylaidd yng Nghymru, yr arddangosfa ddiweddaraf yn Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Wyth deg o flynyddoedd yn ôl lledodd y Wehrmacht a’r Fyddin Goch dros ffiniau Gwlad Pwyl gan ddechrau cyfres o ddigwyddiadau a fyddai’n arwain at sefydlu tri ysbyty Pwylaidd yng nghefn gwlad Cymru ger Wrecsam, ym mhentref Llannerch Banna a thir dau dŷ gwledig, Parc Is-coed a Llannerch Panna.
Roedd yr ysbytai hyn yn unigryw, a meddygon a nyrsys Pwylaidd oedd â’r swydd o ofalu am filoedd o filwyr Gwlad Pwyl blinedig a llesg ar ôl brwydro, a oedd wedi colli eu cartrefi a bellach yn byw ym Mhrydain wedi’r rhyfel. Daeth yr ysbytai’n ganolbwynt i gymuned Bwylaidd, ac rydym yn adrodd hanes y gymuned hon yn yr arddangosfa newydd hon.
Mae’r arddangosfa, a grëwyd gyda chymorth cyn-drigolion gwersyll Ysbyty Llannerch Banna ac mae’r gwirfoddolwyr, yn cynnwys:
• Arteffactau o’r hen ysbyty a’i gapel fel y reredos (gwaith celf tair rhan yn canolbwyntio ar y Forwyn Fair a’r Plentyn.)
• Ffilm yn seiliedig ar recordiadau archif o fywyd yn yr ysbyty yn y 1960au
• Hanesion llafar cyn-drigolion a staff yn yr ysbyty
• Sioe sleidiau yn dangos ffotograffau o’r gymuned.
• Cyfle i’r rhai ieuengach i wisgo gwisg genedlaethol arddull Pwylaidd, gan ddilyn traddodiad sydd wedi ei hen sefydlu yn Llannerch Banna.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu staff yn yr amgueddfa i gynnal yr arddangosfa hon. Mae eich cymorth a’ch cyfranogiad wedi bod yn amhrisiadwy wrth adrodd hanes anhygoel y gymuned Bwylaidd na allai ddychwelyd adref i Wlad Pwyl oherwydd y gyfundrefn Gomiwnyddol yn y wlad a meddianiad Sofietaidd eu gwlad. Mae eu stori yn dal yn fyw heddiw.”
Dywedodd y Cynghorydd John McCusker, Aelod Ward Owrtyn: “Dywedodd y Cynghorydd John McCusker, Aelod Lleol yr ardal “Rwy’n falch iawn o weld y diddordeb hwn gan Amgueddfa’r Fwrdeistref Sirol yn hanes rhyfeddol pentref Llannerch Banna a sut y cafodd dyfodiad cymuned Bwylaidd effaith enfawr ar y pentref. Mae perthnasau cyn-breswylwyr yn parhau i ymweld â’r ardal ac mae croeso mawr iddynt bob tro.”
Mae’r arddangosfa’n agor yn Amgueddfa Wrecsam ar 18 Mawrth ac yn para tan 22 Mehefin 2019. Mae aduniad o gyn-staff a theuluoedd yn gysylltiedig ag Ysbyty Llannerch Banna wedi ei gynllunio ar gyfer mis Mai.
Mae Amgueddfa Wrecsam ar agor o ddydd Llun – dydd Gwener 10am tan 5pm a dydd Sadwrn 11 a.m. tan 4 p.m. Mae mynediad yn rhad ac am ddim. Mae Caffi’r Cowt ar agor 10 a.m. tan 4.30 p.m. (11 a.m. tan 3.30 p.m. – dyddiau Sadwrn).
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch yr amgueddfa ar 01978 297 460.