Mae arddangosfa ffotograffiaeth newydd sydd yn taflu golau ar bobl a phlant sydd ag afiechydon prin ar agor yn Nhŷ Pawb.
Mae Rare Aware wedi’i drefnu gan Same But Different, sefydliad nid-er-elw, a’i nod yw cefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan afiechydon ac anableddau prin, i godi ymwybyddiaeth o’u cyflyrau a rhoi llais cryfach iddynt yn y gymuned.
Mae arddangosfa Rare Aware yn cynnwys lluniau y mae Ceridwen Hughes – sef sylfaenydd Same But Different wedi’u tynnu – ac mae hi wedi gweithio gyda theuluoedd dros dair blynedd er mwyn creu oriel o luniau, er mwyn cael llun o’r bobl y tu ôl i’r cyflyrau.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Mae’n annog pobl i ddod i adnabod pobl ifanc a phlant sydd ag afiechydon prin am eu personoliaethau, nid am eu cyflyrau.
Dywedodd Ceridwen Hughes: “Mae’n hanfodol bwysig ein bod cael gwared ar y rhwystrau a’n bod yn awdurdodi pobl i gael llais er mwyn gweld y bobl y tu ôl i’r afiechydon prin.
Dywedodd Jo Marsh, cyfarwyddwr creadigol yn Nhŷ Pawb: “Mae Tŷ Pawb yn ofod i gael sgwrs am destunau pwysig ac i ni mae’r celfyddydau yn gatalydd i gysylltu pobl â’i gilydd.”
Mae afiechydon prin yn effeithio ar un ym mhob 17 unigolyn yn y DU, ac maent yn fwy cyffredin na mae pobl yn ei ddychmygu – gyda rhwng 6,000 a 8,000 o gyflyrau prin yn cael effaith fawr ar unigolion, teuluoedd a chymunedau.
“Mae gweithio gyda Same But Different yn gyfle gwych i ni daflu golau ar afiechydon prin a’u heffaith ar y rhai sy’n cael eu heffeithio a’u teuluoedd trwy’r lluniau bendigedig.“
Mae’r arddangosfa yn cynnwys nifer o unigolion, gan gynnwys Jake Edwards-Owen 13 oed o Wrecsam sydd â Syndrom Angelman.
Meddai mam Jake, Helen: “Mae Jake yn cofleidio’r mwyafrif o bobl y mae’n eu cyfarfod, ond yna maent yn cael trafferth cyfathrebu gydag o. Mae ei wên yn dweud y cyfan.
“Mae rhai wedi camddeall ein hangen i ddefnyddio iaith arwyddion ac wedi tybio ei fod yn fyddar, ond mae’n cyfathrebu trwy ddulliau di-eiriau.
“Dwi’n meddwl bod gan bobl well dealltwriaeth o afiechydon prin. Dwi’n credu y bydd afiechydon yn cael eu derbyn yn well gyda mwy o ymwybyddiaeth. Yn aml mae plant yn fwy parod i dderbyn nag oedolion.
“Doedden ni erioed wedi clywed am y cyflwr nes i Jake gael diagnosis yn 7 oed.”
Bydd Rare Aware yn Nhŷ Pawb tan ddydd Sul 5 Mai.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Same But Different neu eu tudalen Facebook.
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB