Mae arddangosfa newydd dros dro gan Seirian Richards, sy’n lleol i’r ardal, sy’n dogfennu’n lliwgar ei phrofiad yn ystod triniaeth lewcemia trwy gelf, bellach i’w gweld yn Nhŷ Pawb.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Seirian, 9 oed, wedi mynd trwy driniaeth ar gyfer Lewcemia Lymffoblastig Acíwt (LLA) ac roedd yn gallu canu cloch diwedd triniaeth yn gynharach eleni ym mis Chwefror.
Gan ddangos sut y gellir wynebu salwch gyda hiwmor a thrwy gefnogaeth eraill o’ch cwmpas, mae’r arddangosfa yn cynnwys llyfr jôcs a greodd Seirian i godi calon plant eraill ar y ward; ynghyd â gwaith celf a wnaed gyda’i gilydd gan Seirian a’i mam, Amanda Richards, i dreulio amser yn yr ysbyty.
Mae’r sioe hefyd yn cynnwys gwaith celf gan Amanda, sy’n cynnwys darnau sy’n arddangos ‘Beads of Courage’ Seirian.
Mae Beads of Courage DU yn elusen sy’n cynnig math ychwanegol o gymorth i blant sy’n mynd trwy salwch difrifol a pharhaus, lle rhoddir gleiniau newydd i blant ym mhob cam yn ystod eu triniaeth. Mae’r gleiniau yn dod mewn llawer o liwiau, sy’n cynrychioli gwahanol fathau o brofion, gweithdrefnau neu brofiadau ac yn helpu i esbonio taith unigol plentyn gyda salwch.
Mae Seirian wedi casglu 1731 o leiniau hyd yn hyn ac mae Amanda wedi pwytho’r rhain â llaw ar gynfasau fel rhan o’r arddangosfa.
Dywedodd Amanda “Roeddyn ni eisiau dangos taith Seirian drwy ei thriniaeth am Leukaemia mewn ffordd gwahanol.Mae Chemotherapi yn tocsic, yr taro yn galed ac mae ganddo effeithiau erchyll.Ond, mae hefyd yn achub bywydau, felly rydym wedi rhoi casgliad at ei gilydd yn y gobaith y galll eraill werthfawrogi maintioli y driniaeth mewn ffordd amgen, gweld harddwch yn y bwysfil sydd cancr.”
Agorodd yr arddangosfa hon ar 10 Gorffennaf a bydd yn rhedeg tan ddydd Sadwrn 30 Awst, 2025. Gallwch ddod o hyd iddo yn Oriel Bach Tŷ Pawb i’r dde o’r dderbynfa, gyferbyn â phrif ofod yr oriel.
Mae croeso i bawb ddod draw i Dŷ Pawb unrhyw bryd rhwng 10am-4pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn i weld creadigrwydd Seirian’s yn bersonol.