Ar 7 Mai, 2024, newidiodd y gyfraith i olygu nad yw dinasyddion yr UE yn cael hawl awtomatig i bleidleisio neu sefyll fel ymgeisydd mewn rhai etholiadau penodol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Yng Nghymru, mae’r newid hwn (rhan o Ddeddf Etholiadau Llywodraeth u DU 2022) yn tynnu hawl rhai dinasyddion yr UE i bleidleisio ac ymgeisio yn etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.
Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi os ydych chi’n ddinesydd Iwerddon neu genedl yn y Gymanwlad, ond efallai bydd newid os ydych chi’n ddinesydd mewn gwlad arall yn yr UE.
Fel rhan o’r newidiadau, mae gofyn cyfreithiol ar Gyngor Wrecsam i wirio a yw pob dinesydd yr UE yn y fwrdeistref sirol yn gymwys i gofrestru i bleidleisio, a byddant yn cysylltu â chi i gadarnhau os ydych dal yn gymwys neu’n gofyn am ragor o wybodaeth. Gall hyn gynnwys gwybodaeth i’w helpu i gadarnhau eich statws mewnfudwr.
Os oes gennych gwestiynau penodol am y gofrestr etholiadol, gallwch gysylltu â thîm etholiadau Cyngor Wrecsam ar electoral@wrexham.gov.uk.
Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth am sut gall y newidiadau hyn eich effeithio chi ar wefan Newidiadau i ddinasyddion yr UE yn rhai o etholiadau’r DU.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.