Bydd yr hen orsaf heddlu ar Powell Road yn cael ei dymchwel fore dydd Sul.
Rydym yn gwybod y byddai nifer ohonoch chi wrth eich boddau i fod yn dyst i’r digwyddiad hanesyddol hwn ond, oherwydd cyfyngiadau presennol y cyfnod atal byr, gofynnwn i chi aros i ffwrdd. Bydd yn cael ei recordio a’i rannu ar y cyfryngau felly bydd modd i bob un ohonom weld sut aeth hi.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Dylai preswylwyr sydd â phroblemau iechyd aros dan do am ychydig o oriau bore dydd Sul.
Bydd y ffyrdd yn cael eu cau o 7.30am tan 9.30am a byddwn yn cynghori modurwyr a cherddwyr i osgoi’r ardal ar yr adeg hon.
Dyma’r ffyrdd fydd ar gau: Rhodfa’r Parc a bydd traffig sy’n mynd i fyny Rhodfa’r Parc tuag at yr hen orsaf yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Rhodfa Penymaes. Ffordd Powell i Tesco o gylchfan Ffordd Caer. Cylchfan Ffordd Caer – Stryt Caer cyn belled â’r Ffiwsilwyr.
Dywedodd Gavin Nicolas, Rheolwr Datblygu gyda Total Demolition Services: “Rydym yn brofiadol iawn wrth ddymchwel adeiladau yn y DU ac Ewrop a bydd diogelwch y rhai sydd ynghlwm ac yn byw ac yn gweithio gerllaw o’r pwysigrwydd mwyaf. Mae’r mathau hyn o ddigwyddiadau bob amser yn boblogaidd iawn ond rydym yn gofyn i’r bobl gadw draw ar yr achlysur hwn er mwyn rheoli lledaeniad Covid a sicrhau fod pawb yn aros yn ddiogel.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG