Mae partneriaeth rhwng Cyngor Wrecsam, Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! a Groundwork Gogledd Cymru wedi sicrhau £75,215 gan Gronfa Cymunedau Cryf Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer prosiect i addysgu pobl ifanc am newid hinsawdd, allyriadau carbon a chymryd balchder yn eu hamgylchedd lleol.
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! – Prosiect WILD WATCH
Bydd y ‘Prosiect WILD WATCH’ yn caniatáu i Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! weithio gyda dysgwyr ym mlynyddoedd 5 a 6. Bydd y prosiect yn annog trafodaethau ynghylch newid hinsawdd, allyriadau carbon ac edrych ar yr effaith mae wedi ei gael ar ein bioamrywiaeth lleol. Bydd ‘Wild Watch’ yn edrych ymhellach ar effeithiau eraill ar fioamrywiaeth yn ogystal â pham ei fod yn bwysig, a sut y gall deall bioamrywiaeth helpu i liniaru newid hinsawdd.
Mae’r prosiect yn anelu i sicrhau y bydd gan bobl ifanc well dealltwriaeth o sut y gallant chwarae eu rhan i’w amddiffyn trwy wneud newidiadau sy’n cefnogi a gwella’r amgylchedd naturiol a bywyd gwyllt. Nod y prosiect yw creu cenhedlaeth o bobl ifanc sy’n teimlo gwell cysylltiad â natur ac yn teimlo’r manteision iechyd a lles sy’n gysylltiedig â mwynhau a chefnogi natur mewn hinsawdd sy’n newid.
Groundwork Gogledd Cymru – Cymunedau mwy Gwyrdd (Prosiect Ieuenctid)
Bydd Groundwork Gogledd Cymru yn ceisio cefnogi cymunedau trefol i gynnal, adfywio a datblygu balchder yn eu hamgylchedd naturiol lleol.
Mae’r prosiect Cymunedau mwy Gwyrdd yn raglen ymgysylltu sy’n canolbwyntio ar wirfoddolwyr i alluogi pobl i gysylltu â’u man gwyrdd lleol i gefnogi datblygiad hyder, hunan-barch, lles, ac ail-gysylltu â mannau gwyrdd yn eu hardaloedd lleol.
Bydd rhai 14-18 oed mewn addysg yn cael y cyfle i fynychu sesiynau strwythuredig sy’n addysgu am effeithiau amgylcheddol a gwelliannau i fioamrywiaeth eu hardaloedd lleol.
Bydd rhai 18-24 oed yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn rhaglen wyth wythnos i ddatblygu sgiliau a fydd yn cefnogi eu datblygiad personol. Byddant yn cynllunio a chyflawni gwelliannau cymunedol wrth ddysgu am liniaru newid hinsawdd a’r effeithiau amgylcheddol y bydd y mannau gwyrdd yn eu cynnig i’w cymunedau.
Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r bartneriaeth hon gyda Xplore! a Groundwork Gogledd Cymru a fydd yn caniatáu i gymaint o bobl ifanc ddysgu am effeithiau niweidiol newid hinsawdd ac allyriadau carbon ar yr amgylchedd naturiol. Rydym eisiau diolch i Gronfa Cymunedau Cryf Cyfoeth Naturiol Cymru am gefnogi’r gwaith pwysig hwn yn ein cymuned.”
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae cymaint o fanteision o gael balchder yn eich amgylchedd. Beth sy’n arbennig o bwysig yw sut y bydd y Prosiect WILD WATCH a’r Prosiect Ieuenctid Cymunedau mwy Gwyrdd yn cefnogi iechyd a lles pobl ifanc sy’n cymryd rhan, gan hybu eu hyder a’u hunan-barch, yn ogystal â datblygu cymunedau cryf.”
Dywedodd Karen Balmer, Prif Weithredwr Groundwork Gogledd Cymru “Mae’n wych ein bod yn gallu darparu’r cyfle hwn i’n cenedlaethau’r dyfodol ddysgu am liniaru newid hinsawdd a’r effeithiau amgylcheddol ar fannau gwyrdd. Bydd y sesiynau hyn nid yn unig o fudd i unigolion a’u dyfodol ond i’r cymunedau ble maent yn byw hefyd.”
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI