Erthyl gwadd: Gofalwyr Cymru
Gydag etholiad nesaf y Senedd yn digwydd yn 2026, mae’r Arolwg Cyflwr Gofalu eleni yn bwysicach nag erioed.
Mae’r Arolwg Cyflwr Gofalu, a gynhelir ledled y DU, yn cofnodi sut beth yw bywyd go iawn i ofalwyr di-dâl. Mae eich profiadau yn sail i’n gwaith ymgyrchu ledled y DU, yn genedlaethol, ac yn lleol.
Drwy gymryd rhan, byddwch yn helpu i sicrhau bod lleisiau gofalwyr yn cael eu clywed – gan ddylanwadu’n uniongyrchol ar y penderfyniadau a allai lunio dyfodol gofalu yng Nghymru a ledled y DU.
Cymerwch yr amser i gwblhau’r arolwg a’i rannu gyda gofalwyr eraill rydych chi’n eu hadnabod. Gallwch lenwi’r arolwg yma.
Bydd yr Arolwg Cyflwr Gofalu yn dod i ben ar 10 Awst, a byddwn yn rhannu’r canlyniadau yn hwyrach yn y flwyddyn.
Arolwg Cyflwr Gofalu – cymerwch ran yn yr arolwg hwn!
Wrecsam yn dathlu digwyddiad Heneiddio’n Dda llwyddiannus (26 Mehefin) – Newyddion Cyngor Wrecsam