Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio arolwg i wrando ar brofiadau a barn merched ynglŷn â diogelwch yng Ngogledd Cymru.
Nod yr Arolwg Llais yn erbyn Trais yw ceisio deall pryderon merched ar draws y rhanbarth a dyna pam maen nhw’n gofyn i gynifer â phosibl o ferched gymryd rhan. Gellir defnyddio’r ymatebion wedyn i fynd i’r afael â materion a thargedu meysydd penodol er mwyn i ferched deimlo’n fwy diogel yn y cartref, yn eu cymunedau, yn y gwaith a phan fyddan nhw o gwmpas y lle.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Nid yw teimlo mewn perygl yn rhywbeth unigryw i ferched, wrth gwrs, ond mae trais rhywiol a throseddau aflonyddu yn aml iawn yn cael eu cyflawni gan ddynion, a merched yw’r dioddefwyr. Ond, hoffem sicrhau dioddefwyr sy’n ddynion ein bod yn ystyried pob adroddiad am drosedd o ddifri, beth bynnag fo’ch rhyw neu nodweddion eraill, ac rydym yn eich annog i gysylltu â ni os ydych yn ddioddefwr.
Mae’r arolwg yn gwbl ddienw ac ar gael tan2il Gorffennaf. Gellir ei gwblhau yn Gymraeg neu Saesneg.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Jason Devonport: “Yn dilyn marwolaeth drasig Sarah Everard yn gynharach eleni, rydym wedi gweld merched ar draws y DU yn dod ymlaen gyda’i straeon o deimlo mewn peryg neu o gael ei haflonyddu. Mae’r ffaith bod hon wedi dod mor gyffredin yn ein cymdeithas yn annerbyniol a rhaid ei herio.
“Rydym wedi creu’r arolwg hwn i wrando ar yr hyn y mae merched a menywod yn ein cymuned yn dweud am eu profiadau personol a pha mor ddiogel maent yn teimlo yn byw yng ngogledd Cymru heddiw. Rydym yn annog cymaint o ferched â phosib i gwblhau’r arolwg fel y gallwn weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r materion hyn gan wneud Gogledd Cymru’r lle mwyaf diogel yn y DU.
“Rydym am sicrhau bod pawb sydd angen help yn gwybod ble i’w gael ac yn teimlo’n hyderus y byddwn yn gwrando ac y byddant yn cael eu trin o ddifri.”
Bydd y wybodaeth a gesglir o’r arolwg yn arwain at ffurfio’r ymgyrch “Llais yn Erbyn Trais”. Bydd yn rhoi golwg o’r hyn sydd angen ei daclo a ffurfio ein cynlluniau yn y dyfodol ac yn fodd i wella diogelwch yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd Jane Ruthe, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Cymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru (RASASCNW): “Rydym yn croesawu ac yn cefnogi’r arolwg hwn sy’n rhoi cyfle i bobl Gogledd Cymru fynegi eu pryderon ac i’w lleisiau gael eu clywed. Maent yn cael cyfle i siarad am y pethau sy’n eu gwneud i deimlo’n anniogel o ran eu hunain a’u plant. Gall ac mae trais rhywiol yn digwydd i unrhyw un o unrhyw rywedd. Ond y gwirionedd ydy ei fod yn drosedd sy’n effeithio merched yn bennaf. Mae RASASCNW yn gweithio yn holl siroedd Gogledd Cymru. Mae’n darparu cymorth a chwnsela i unrhyw un o unrhyw rywedd ym mhob sir, boed bod y trais rhywiol wedi digwydd yn ddiweddar neu amser maith yn ôl, yn ystod plentyndod neu pan yn oedolyn. Mae gennym wasanaeth plant a phobl ifanc arbenigol hefyd.”
Os ydych wedi dioddef trosedd, riportiwch o i ni drwy ein sgwrs fyw neu drwy alw 101 neu 999 mewn argyfwng. Mae gennym wasanaethau a all eich cefnogi os ydych wedi riportio’r drosedd i’r heddlu neu beidio. Ceir mwy o wybodaeth.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF