Mae Asiantwyr Cymunedol yn werthfawr iawn i’w cymunedau a dyma un enghraifft o’r gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud:
Roedd gan ŵr a oedd yn gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau a dibyniaeth ar alcohol, lawer o broblemau iechyd, a phrin y byddai’n gadael ei gartref. O ganlyniad i’w gyflwr, daeth yn rhwystredig a dyna pryd ddechreuodd yr anghydfodau gyda’i gymdogion. Dechreuodd un o’n Asiantau Cymunedol ymweld, a rhoddodd hyn rywun iddo siarad ag o.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Helpodd yr ymweliadau i leddfu ei ddiflastod a’i unigrwydd, a’i arwain at ymgysylltu â gwasanaethau eraill a allai helpu. Aethon nhw hefyd i gaffis lleol, parciau gwledig a siopau, a’i helpodd i adennill ei hyder. O ganlyniad, mae bellach yn rhan o grŵp cefnogaeth arbenigol ac mae wedi ei ryddhau gan yr Adran Cleifion Allanol Iechyd Meddwl. Mae’n fwy optimistaidd hefyd. Mae’n gobeithio gwneud rhywfaint o waith gwirfoddol ac am drefnu i fynd ar wyliau taith fws eleni – cam mawr o feddwl na allai adael y tŷ.
Mae’r anghydfodau gyda chymdogion wedi dod i ben ac mae wedi sicrhau tenantiaeth barhaol yn y tŷ. Does dim rhaid iddo fynd i’r ysbyty mor aml chwaith ac mae’n gofalu amdano ei hun yn llawer gwell.
Bydd yr Asiant Cymunedol yn parhau i ymweld ag ef dros yr ychydig fisoedd nesaf, a bydd hyn yn lleihau’n raddol.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae hon yn stori galonogol dros ben ac yn un sy’n dangos y cyfraniad y gall Asiantwyr Cymunedol ei wneud yn ein cymunedau. Pob lwc iddo, a hoffwn ddiolch i’r holl asiantwyr cymunedol drwy’r fwrdeistref sirol am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i’r rhai mwyaf diamddiffyn yn ein plith.”
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.