Fel rhan o ŵyl lenyddol newydd Gŵyl Trosedd Clwyd, bydd yr awdur Meleri Wyn James yn ymddangos yn Wrecsam i rannu ei phrosesau ysgrifennu. Bydd hi hefyd yn datgelu popeth ynghylch sut i greu dirgelwch llofruddiaeth.
Ddydd Gwener, Tachwedd 7, bydd Meleri yn ymddangos yn llyfrgell Wrecsam i rannu straeon am ei gyrfa. Gyrfa a ddechreuodd pan oedd hi’n 21 oed pan gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o straeon byrion.
Mae Meleri bellach wedi cyhoeddi dros 25 o lyfrau ar gyfer oedolion, dysgwyr Cymraeg, pobl ifanc a phlant. Mae ei nofel ddiweddaraf i oedolion, “Dim Ond Un”, yn cynnwys teulu sydd wedi ymgynnull ar ynys anghysbell ar gyfer dathliad ac maen nhw’n cael eu hamgylchynu mewn dirgelwch gyda llofrudd yn eu plith.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd y cyfle i ymuno â’r hwyl a chyffro ac ymgollwch mewn dirgelwch yn ystod yr hyn a fydd yn ddigwyddiad gwych.
Mae’r sioe yn dechrau am 2pm ac mae’r tocynnau yn £5 yr un. Gallwch fachu eich tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn a’r holl sioeau gwych eraill sydd ar gael yn yr ŵyl trwy glicio YMA.


 
  
  
  
  
  
 
