Dathlodd y llyfrgell yng Ngharchar Berwyn ei gŵyl lenyddol gyntaf yr wythnos diwethaf.

Yn ystod y gyfres o ddigwyddiadau, a gynhaliwyd ar y cyd â Noson Lyfrau’r Byd ar 23 Ebrill, ymwelodd awduron a beirdd â’r carchar i roi’r cyfle iddynt ysgrifennu eu gwaith eu hunain.

Ddydd Llun, perfformiodd y bardd digrif Les Barker i gynulleidfa o ddynion o bob rhan o Garchar Berwyn, ac ymunodd rhai yn yr hwyl gyda’u hymdrechion eu hunain.

EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

Roedd yr adborth a gafwyd ar ôl y digwyddiad i gyd yn gadarnhaol gydag un o’r dynion yn ysgrifennu: “Roedd yn ddoniol ac yn llawn gwybodaeth. Dw i’n gobeithio y bydd yn annog eraill i ddarllen eu gwaith mewn digwyddiadau yn y dyfodol. A gobeithio y bydd llawer mwy o ddigwyddiadau.”

Dathlwyd Noson Lyfrau’r Byd gyda chwis a chyfle i ennill llyfrau.

Yn ddiweddarach yn yr wythnos, rhoddodd Vaseem Khan, awdur y nofelau Baby Ganesh Detective Agency, sgwrs i ddosbarthiadau Saesneg yng Ngharchar Berwyn, a chynhaliodd yr awdures Gymraeg Siân Northey y gyntaf o gyfres o weithdai i annog siaradwyr Cymraeg yng Ngharchar Berwyn i gynhyrchu eu gwaith ysgrifenedig eu hunain yn Gymraeg.

Dywedodd Ms Northey: “Mi wnes i fwynhau’r profiad yn fawr. Mae gan y dynion gyfoeth o straeon i’w dweud a dw i’n edrych ymlaen i ddychwelyd.

“Hoffwn ddiolch i Lenyddiaeth Cymru am ariannu’r gweithdai hyn ac am roi’r cyfle i mi weithio efo’r dynion yng Ngharchar Berwyn.”

“Cyfoeth o ddiddordeb mewn llenyddiaeth a llyfrau yng Ngharchar Berwyn”

Dywedodd y Llyfrgellydd Alys Lewis: “Un o egwyddorion creiddiol Carchar Berwyn yw’r Egwyddor o Normalrwydd, sy’n golygu bod yn rhaid i ni adlewyrchu’r byd tu allan mor agos â phosibl.

“Yn yr ysbryd hwn roedd yn bleser mawr i’r llyfrgell groesawu awduron gwadd a chynnig rhaglen o ddigwyddiadau i’r dynion yma, yn yr un ffordd ac y mae ein chwaer lyfrgell yn Wrecsam yn gwneud.

“Mae cyfoeth o ddiddordeb mewn llenyddiaeth a llyfrau yng Ngharchar Berwyn ac mae digonedd o greadigrwydd ymhlith y dynion yma, ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu eu hannog yn ystod yr wythnos hon.

“Rydym yn gobeithio darparu digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”

Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.

Cyflym, effeithlon ac yn dda am yr amgylchedd – dewiswch filiau Treth Cyngor di-bapur trwy FyNghyfrif

COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR