Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Awgrymiadau i’ch helpu i gadw eich cadi bwyd yn ffres yn yr haf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Mae GradCon Cymru yn dod i’r Gogledd am y tro cyntaf
Mae GradCon Cymru yn dod i’r Gogledd am y tro cyntaf
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle
Wrexham museum
Cyfnod newydd i Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Awgrymiadau i’ch helpu i gadw eich cadi bwyd yn ffres yn yr haf
Y cyngor

Awgrymiadau i’ch helpu i gadw eich cadi bwyd yn ffres yn yr haf

Diweddarwyd diwethaf: 2023/07/06 at 2:15 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Food Waste Recycling Caddy
RHANNU

Mae WRAP Cymru yn dweud mai’r ffactor ‘ych-a-fi’ (neu ‘yuck factor’) yw’r rheswm fwyaf nad yw pobl yn ailgylchu eu gwastraff bwyd.

Cynnwys
Awgrymiadau ar sut i osgoi bin bwyd drewllydArchebu cadi newyddRydym ni’n cynnig bagiau bin bwyd am ddim

Fodd bynnag, nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod ailgylchu gwastraff bwyd yn creu llai o arogl ac yn fwy glân na’i roi yn y bin…cofiwch mae cynnwys eich cadi gwastraff bwyd yn cael eu casglu bob wythnos, tra nad yw gwastraff na ailgylchir.

Er hynny, rydym ni’n gwybod bod y biniau bwyd yn gallu drewi ychydig mwy yn ystod y misoedd cynnes yr haf, ond mae yna ychydig o bethau y gallwch chi eu gwneud i atal hyn rhag digwydd.

Awgrymiadau ar sut i osgoi bin bwyd drewllyd

• Gwagio’r bag yn fwy aml mewn tywydd cynnes
Yn syml, os ydyw’n boeth bydd cynnwys eich cadi bwyd yn dechrau arogli yn gynt nag yn ystod misoedd oerach. Ceisiwch wagio’n fwy rheolaidd pan mae’n gynnes.

• Glanhau/diheintio’r bin yn rheolaidd
Fel unrhyw fin arall, bydd eich cadi angen bach o ofal hefyd. Ceisiwch ei olchi yn rheolaidd, yn arbennig pan mae’n gynnes.

• Gwasgarwch ychydig o ficarbonad soda yng ngwaelod y bin
Mae bicarbonad soda yn ffordd dda o niwtraleiddio arogl yn gyflym, felly os oes gennych ychydig yn y cwpwrdd yna efallai byddwch angen rhoi ychydig yng ngwaelod eich cadi.

• Glanhau unrhyw beth sydd wedi diferu ar unwaith
Weithiau mae diferion yn digwydd, ond mae gwneud yn siŵr eich bod yn eu glanhau yn gyflym yn helpu i atal unrhyw aroglau.

• Cadw cadi bwyd y gegin allan o olau haul uniongyrchol
Dewch o hyd i le oer i storio eich cadi, allan o olau haul uniongyrchol yn help mawr.

• Cadwch y caead ar gau
Bydd cau’r caead yn cadw pryfaid i ffwrdd ac yn stopio’r arogl rhag mynd o amgylch yr ystafell, felly os nad ydych yn gwneud yn barod, ceisiwch ddechrau cau’r caead.

• Peidiwch â gorlenwi eich bag bin bwyd
Problem gyffredin yw bod bagiau bin bwyd yn rhwygo, ac un o’r ffyrdd gorau o atal hyn rhag digwydd yw sicrhau nad ydych yn eu gorlenwi nhw.

• Ewch â’ch cadi cegin y tu allan pan fyddwch yn trosglwyddo gwastraff
Awgrym defnyddiol arall yw cario eich gwastraff bwyd y tu allan i’ch cadi cegin pan fyddwch chi’n barod i’w drosglwyddo i’r cadi ymyl ffordd. Mae hyn yn ei atal rhag rhwygo ac unrhyw hylif rhag colli.

Gobeithio eich bod yn barod i ailgylchu eich gwastraff bwyd. Angen cadi neu fagiau? Dim problem, cewch y ddau am ddim.

Archebu cadi newydd

Rydym ni’n cynnig cadi cegin a biniau ymyl ffordd newydd, felly peidiwch â phoeni – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw archebu un newydd.

Gallwch wneud cais am fin bwyd newydd yn hawdd ar eich gwefan. Fe allwch chi archebu bocsys ailgylchu newydd hefyd os ydych chi eu hangen.

Rydym ni’n cynnig bagiau bin bwyd am ddim

Gallwch glymu bag bin bwyd gwag i handlen eich bin bwyd ar ddiwrnod eich casgliad nesaf – bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi.

Neu, os yw’n well gennych chi, gallwch gasglu’r bagiau bin bwyd am ddim (yn ogystal â sachau glas newydd) o amryw leoliadau yn Wrecsam, gan gynnwys nifer o siopau cyfleus, swyddfeydd ystadau, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu.

I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i https://www.wrecsam.gov.uk/services/biniau-ac-ailgylchu

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynllun Teithio Llesol - Hoffem glywed eich sylwadau Cynllun Teithio Llesol – Hoffem glywed eich sylwadau
Erthygl nesaf Dau brosiect yn Wrecsam yn denu ymwelwyr arbennig Dau brosiect yn Wrecsam yn denu ymwelwyr arbennig

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae GradCon Cymru yn dod i’r Gogledd am y tro cyntaf
Mae GradCon Cymru yn dod i’r Gogledd am y tro cyntaf
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 16, 2026
Wrexham museum
Cyfnod newydd i Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 16, 2026
Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle Mawrth 13, 2026
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall Mawrth 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrexham museum
Pobl a lleY cyngor

Cyfnod newydd i Amgueddfa Wrecsam

Mawrth 16, 2026
LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English