Weithiau, mae hi’n anodd dod o hyd i’r amser i aros yn gorfforol heini. Os ydych chi yn y gwaith drwy’r dydd, dydy’r syniad o ymarfer corff cyn neu ar ôl gwaith ddim wastad yn apelio rhyw lawer …
Ond beth os allech chi fod â swydd egnïol fyddai’n eich galluogi i gadw’n heini tra’n gweithio?
Ydyn, mae’r rhain yn bodoli, ac mae gennym ni rai sydd yn addas ar gyfer dynion a menywod fel ei gilydd.
Oes gennych chi ddiddordeb? Darllenwch ymlaen …
Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer nifer o weithredwyr Strydwedd. Mae’r rhain yn swyddi corfforol sydd yn cynnwys gweithio yn yr awyr agored. Felly, os ydych chi’r math o unigolyn y byddai’n well gennych fod allan yn yr awyr agored nac wedi eich cyfyngu i waith swyddfa, gallai hyn fod yn addas i chi.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae llawer o’r rhain yn swyddi llwytho, ym meysydd casglu sbwriel a deunydd ailgylchu.
Mae Casglwyr Sbwriel yn tynnu biniau du neu wyrdd at y lori sbwriel gan eu dadlwytho trwy ddefnyddio lifftiau cyn eu dychwelyd i’w lleoliad gwreiddiol.
Mae Casglwyr deunydd ailgylchu yn mynd a bocsys/bagiau o ddeunydd i’w ailgylchu at y cerbyn ailgylchu, gan eu dadlwytho i adrannau gwahanol cyn eu dychwelyd i’w lleoliad gwreiddiol.
Mae’r rhain yn rolau corfforol ac fe fyddwch yn cerdded llawer hefyd.
Mae gweithredwyr Strydwedd hefyd yn darparu ystod o wasanaethau eraill gan gynnwys cynnal a chadw priffyrdd, gwasanaethau mynwentydd ac amlosgi, glanhau strydoedd a chynnal a chadw tiroedd.
Felly, pa bynnag un o’r tasgau uchod fydd yn dod i’ch rhan, byddwch yn gweithio yn yr awyr agored ac yn cadw’n heini wrth wneud hynny.
Ac ystyriwch hyn. Gall gweithio i’r cyngor fod yn ddewis gyrfaol da – mae fel arfer yn cynnwys pensiwn, lwfans gwyliau da, a sefydlogrwydd cymharol.
Os ydych chi’n medru eich gweld eich hun yn gwneud hyn i gyd, cliciwch ar y ddolen isod i wneud cais 🙂
Y dyddiad cau yw dydd Gwener, Hydref 5.
Bron ein bod ni’n clywed arwyddgan ‘Rocky’ ymlaen yn y cefndir 😉
Gwych … Ddangoswch y SWYDD Na… Dw i’n iawn ddiolch