Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
DigwyddiadauPobl a lleYn cael sylw arbennig

WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 5, 2026 10:15 am
Rhannu
Darllen 4 funud
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
RHANNU

Erthygl gwadd tîm cais Dinas Diwylliant Wrecsam2029

Mae Wrecsam wedi cyflwyno ei Mynegiant o Ddiddordeb yn swyddogol i’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer Dinas Ddiwylliant y DU 2029! Mae’r cam pwysig hwn yn ystod y broses ymgeisio yn foment gyffrous ac yn golygu bod Wrecsam cam yn nes at sicrhau’r teitl.

Dinas Ddiwylliantl y DU yw teitl nodedig sy’n dod â buddsoddiad hanfodol ar gyfer adfywio tra’n arddangos hanes lle trwy raglen ddiwylliannol ysbrydoledig, deniadol a rhyngwladol. Mae ennill y teitl yn sicrhau £10 miliwn gan Lywodraeth y DU, a all helpu i ddenu buddsoddiad, hybu twristiaeth ac gwella mynediad at gelfyddydau a diwylliant. Amcangyfrifir y gallai hyn gynhyrchu dros £200 miliwn i’r rhanbarth cyfan, cam pwysig a all fuddio i’r holl sir. Mae enillwyr blaenorol, gan gynnwys Bradford, Coventry, Hull a Derry/Londonderry, wedi gweld llwyddiant enfawr ar ôl ennill y teitl, gan gynhyrchu incwm a fydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol am flynyddoedd i ddod.

Yn arwain ar y cais ar gyfer Wrecsam mae Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol Wrecsa, elusen annibynnol a gefnogir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Gan gefnogi datblygiad seilwaith diwylliannol a chreadigol y sir, mae gan YGDW fwrdd ymroddedig o ymddiriedolwyr sy’n cymryd cyfrifoldeb am leoli Wrecsam mewn ffyrdd newydd nag erioed o’r blaen, gan ei hyrwyddo fel gofod i gysylltu, cydweithio a buddsoddi.

Er nad yw’r dyddiad cau ar gyfer Mynegi Diddordeb tan ddydd Sul 8fed Chwefror, mae’r Ymddireidolaeth wedi dewis cyflwyno’n gynnar, gan ddangos ei barodrwydd yn ogystal ag ei benderfyniad i arwain o’r blaen.

Mae Amanda Evans, Cyfarwyddwr Cais Diwylliant Wrecsam2029, yn nodi:

“Rydym yn falch o gyrraedd y cam pwysig cyntaf ar ein taith i ddod yn Ddinas Ddiwylliant y DU 2029. Mae Wrecsam yn lle o greadigrwydd anhygoel, lle mae amrywiaeth diwylliant yn ffynnu ym mhob rhan o’n sir. Mae’r cais hwn ar gyfer cymuned gyfan Wrecsam – pob tref, pentref, a chymdogaeth – ac mae’n gyfle i rannu ein stori unigryw ac anhygoel gyda gweddill y DU a’r byd. Nid yw hyn yn ymwneud â theitl yn unig – mae’n ymwneud â datgloi cyfleoedd newydd, ysbrydoli balchder, a buddsoddi mewn dyfodol fywiog i bawb ledled ein sir.”

Yn ogystal â’i gyflwyno’n gynnar, mae gan Wrecsam ymgyrch gref wedi’i chynllunio ar gyfer y misoedd sydd i ddod, gan roi golau ar gymunedau unigryw a amrywiol y sir trwy ystod eang o ddigwyddiadau a phrosiectau. Bydd yr ymgyrch yn arddangos Wrecsam ar lwyfan cenedlaethol, gan adeiladu momentwm a chefnogaeth ar gyfer y cais.

Cynhelir rhestr hir swyddogol Ddinas Ddiwylliant y DU gan Lywodraeth y DU ym mis Mawrth 2026, gyda’r enillydd o deitl 2029 yn cael ei gyhoeddi’r gaeaf hwn.

Mae Wrecsam yn mynd am aur. Dysgwch fwy am y cais Wrecsam2029 a ymunwch â’r rhestr bostio am ddiweddariadau yma.

TAGGED:wrecsamWrecsam2029
Rhannu
Erthygl flaenorol Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM! Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Erthygl nesaf EV charging Gwefru rhatach ar gyfer cerbydau trydan i breswylwyr Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English