Rydym yn gwybod fod digonedd o gampwyr ac athletwyr talentog o gwmpas y lle.
Rydym hefyd yn gwybod am y daioni anhygoel y gall clybiau chwaraeon a thimau ar lefel cymunedol ei wneud yn eu cymunedau.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae pwysigrwydd chwaraeon anabledd wedi tyfu – yn arbennig yn sgil y ffaith fod gennym Baralympwyr sydd wedi ennill medalau, fel Sabrina Fortune a enillodd fedal Efydd yn Gamau Paralympaidd 2016, ac sy’n byw ac yn ymarfer yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Mae Wrecsam Egnïol a Hamdden Aura, mewn phartneriaieth gyda Chwaraeon Anabl Cymru, wedi trefnu diwrnod o weithgareddau chwaraeon cynhwysol yn ddiweddarach yn y mis.
Bydd y digwyddiad am ddim yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Queensferry, o 10am tan 3pm ddydd Sul, 13 Mai.
Mae’r diwrnod hwn ar agor i unrhyw un, o unrhyw allu, i roi cynnig ar chwaraeon a chwrdd â phobl o glybiau a thimau yn Wrecsam a Sir y Fflint.
Bydd chwaraeon a gweithgareddau ar agor i unrhyw un gydag unrhyw amhariad.
Mae’n agored i oedolion a phlant, a gall pobl ddod mewn grwpiau, fel unigolion neu gyda theulu – y cyfan sy’n bwysig yw eu bod yno!
“Lefel anhygoel o athletiaeth ac ymroddiad”
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi Cyngor Wrecsam, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Rwy’n falch iawn ein bod yn rhan o’r digwyddiad hwn a hoffwn ddiolch i dîm Wrecsam Egnïol am eu gwaith yn trefnu’r diwrnod hwn.
“Mae Chwaraeon Anabledd yn bwysig iawn ac yn sgil poblogrwydd cynyddol y Gemau Paralympaidd a chwaraeon Para yn Gemau’r Gymanwlad, mae mwy a mwy o bobl wedi gweld y lefel anhygoel o athletiaeth ac ymroddiad a gyflawnir gan y rhai sy’n cymryd rhan, a hefyd wedi dod yn ymwybodol o’r ffaith fod digon o glybiau chwaraeon anabledd reit ar y stepen drws.
“Ddylai amhariad ac anabledd fyth fod yn rhwystr i atal pobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon, ac yn sicr, dylai unrhyw un sydd â diddordeb fynd i’r digwyddiad hwn ar Lannau Dyfrdwy.”
Dwedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet am Addysg yn Sir Fflint: “Mae hyn yn gyfle gwych i bobol ifanc ac oedolion anabl i gymryd rhan mewn nifer o chwaraeon. Bydd y digwyddiad hwn yn dangos y nwyddau ffantastig a chyfleoedd am chwaraeon sydd ar gael dros Sir Fflint a’r ardal o gwmpas. Rydym yn obeithiol o gynyddu’r nifer o bobol anabl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, nail ai ar eu hunain neu gyda ffrindiau a theulu. Yn obeithiol, bydd y digwyddiad yn amlygu’r proffil o’r cyfleoedd am chwaraeon anabl a chynhwysol at lefel lleol.”
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau’r dydd, neu i gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â:
Terri Ritchie yn Wrecsam Egnïol ar 01978 297 362 neu drwy e-bost ar terri.ritche@wrexham.gov.uk
neu;
Donna Bullivant-Evans yn Aura Cymru ar 01352 702 480 neu drwy e-bost ar donna.bullivant-evans@aura.wales.
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI