Cymerwyd cam ymlaen gyda’r gwaith o drwsio B5605 Newbridge Road gyda’r newyddion ein bod yn gwahodd contractwyr i gynnig gwneud y gwaith ar eTender Wales.
Rydym ni’n chwilio am gwmni sydd â phrofiad yn y maes yma o waith, a gwnaed y penderfyniad i hysbysebu drwy Fframwaith Contractwr Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA). Fe ddylai’r llwybr yma sicrhau cydymffurfiaeth â chanlyniad cytunedig o fewn Dogfennaeth Rheoliadau Ariannol.
Bydd gan gontractwyr 6 wythnos i gyflwyno eu cynnig ac ar ôl 3 wythnos fe fydd yna gyfle i swyddogion y Cyngor ateb unrhyw gwestiynau sydd wedi codi.
Ar ôl chwe wythnos bydd y tendrau’n cael eu gwerthuso yn unol â’n prosesau Caffael a bydd unrhyw faterion yn cael eu datrys cyn i’r cynigydd a ffafrir gael ei ddewis.
Mae cymhlethdod y cynllun yma’n golygu bod angen dyluniad a manylion adeiladu, a gwaith cynllunio a chaffael cysylltiedig unigryw ac rydym ni’n falch bod y gefnogaeth hon yn cael ei darparu gan Beirianwyr Ymgynghorol (Atkins) ac maent yn canolbwyntio ar risg cytundebol. Mae cynnydd bellach wedi cael ei wneud ac rydym wedi cyrraedd y cam pan allwn ni wahodd cynigion, drwy’r Fframwaith y soniwyd amdano ynghynt, er mwyn i’r cam mawr nesaf barhau gyda hyder. Mae’r diwydrwydd hyd yn hyn wedi talu ar ei ganfed gan fanteisio ar y cyfle ar gyfer cyfnod pontio esmwyth i’r cam adeiladu a fydd yn dilyn.
Bydd mantais ychwanegol tymhorau’r gwanwyn a’r haf i ddelio â chyfnodau mwyaf cymhleth y gwaith atgyweirio yn darparu ei fanteision ei hun a chanlyniadau da y mae preswylwyr Wrecsam yn ei haeddu.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Yr Amgylchedd: “Rydw i’n falch fod y gwaith ar y prosiect pwysig yma wedi cyrraedd y cam yma.
“Mae cau’r ffordd wedi cael effaith sylweddol ar gymunedau lleol a’r gwasanaethau brys sydd yn gorfod gyrru milltiroedd allan o’r ffordd, yn aml yn ddyddiol.
Yr amserlen o ddigwyddiadau hyd yn hyn:
Ionawr 2021 – Tarodd storm enfawr o’r enw Christoph gan achosi methiant difrifol yn y llethr gan orfodi i’r ffordd orfod cael ei chau.
Mawrth 2021 – Yn dilyn canlyniadau ymchwiliadau tir cychwynnol, fe gomisiynwyd adroddiad pellach i drefnu asesiad o gyflwr y tir.
Ebrill 2021 – Cynhaliwyd rhagor o arolygon manwl a gafodd eu prosesu gan ffurfio rhan o’r adroddiad dewisiadau atgyweirio cychwynnol. Ymhellach, mae rhagor o waith ymchwilio’r tir wedi’i dargedu wedi digwydd, mae data wedi cael ei gasglu ac yn parhau i gael ei gasglu i asesu amodau dŵr arwyneb a monitro unrhyw symudiad yn ddwfn dan ddaear.
Mai 2021 – Cawsom £175,000 gan Lywodraeth Cymru i ad-dalu ein costau hyd yn hyn, ac i ariannu rhagor o astudiaethau paratoadol. Defnyddiwyd y cyllid yma hefyd i lunio adroddiadau dewisiadau ac amcangyfrif o gostau ar gyfer sefydlogi a thrwsio’r llethr.
Chwefror 2022 – Cawsom ein gwahodd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynnig ar gyfer cyllid grant a gyflwynwyd ym mis Mawrth, wedi’i gefnogi gan y wybodaeth oedd wedi’i gasglu erbyn yr adeg hynny, ac roeddem yn falch o gael y cyllid y gwnaethom gais amdano yn llawn ym mis Ebrill 2022.
Parhaodd y gwaith wrth lunio’r dogfennau manyleb ac agosáu at benodi Peirianwyr Ymgynghorol. Cafodd hyn ei hysbysebu, drwy Fframwaith a nodwyd ym mis Hydref 2022, ac fe benodwyd y Peirianwyr Ymgynghorol llwyddiannus ym mis Tachwedd 2022.
Tachwedd/Rhagfyr 2022 – Yn y cyfnod cyn y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd cafodd tîm yr Ymgynghorwyr ei ffurfio a buont yn paratoi’r dogfennau angenrheidiol i gyflwyno gwahoddiadau er mwyn i Gontractwyr Dylunio ac Adeiladu gynnig ar gyfer y cynllun a fydd yn golygu trwsio ardal y tirlithriad ac ailadeiladu’r cerbytffordd, ac mae’r Cyngor yn falch o gadarnhau bod y dogfennau hyn wedi cael eu rhannu ar eTender Wales.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD