Rydym yn falch o’n Safle Treftadaeth Y Byd ac mae’r ddau arwydd newydd ar adwyon allweddol i mewn i Wrecsam ar yr A483 yn dangos hynny.
Mae’r arwyddion – un yn y Waun ac un yn Rossett – yn dangos traphont ddŵr gwych Telford ym Mhontcysyllte gan ei bod yn croesawu teithwyr i’r ardal.
Mae’r arwyddion yn darllen “Croeso i Fwrdeistref Sirol Wrecsam – Cartref Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Economi: “Mae’n ffordd wych o hysbysebu ein Safle Treftadaeth y Byd i ymwelwyr a hefyd yn dangos ein balchder i’r strwythur hyfryd hwn.”
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n bwysig bod ymwelwyr i’r ardal yn cael eu croesawu gan arwyddion wedi’u cyflwyno’n dda mewn ardal ac rydym yn falch iawn o’n Safle Treftadaeth y Byd.”
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT