Oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect yn eich cymuned?

Ydych chi eisiau cymorth ariannol i ddechrau?  Beth am ymgeisio am grant!

Mae adran gofal cymdeithasol i oedolion Cyngor Wrecsam yn cynnig grantiau un-tro bach i gefnogi datblygiad gweithgareddau cymunedol neu glybiau cinio sy’n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr lle gall pobl gwrdd â’i gilydd yn rheolaidd.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Mae gweithgareddau fel hyn yn rhoi cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol a symbyliad, lleihau ynysiad a chyfoethogi bywydau.

Os oes gennych syniad, beth am gysylltu â ni? Y cyfan rydych ei angen i ddechrau yw Ffurflen Mynegi Diddordeb, a gallwch gael un drwy ffonio 01978 298617 neu e-bostio comisiynu@wrecsam.gov.uk

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

DILYNWCH NI AR SNAPCHAT