Ym mis Chwefror bob blwyddyn mae mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol (LGBT) yn dathlu bywydau a llwyddiannau’r gymuned LGBT.
Er ein bod yn sefyll dros gydraddoldeb ac amrywiaeth drwy gydol y flwyddyn, mae’r cynllun mis o hyd hwn yn rhoi cyfle arbennig i godi ymwybyddiaeth am faterion LGBT. Dengys ymchwil fod pobl o gymunedau LGBT yn fwy tebygol o brofi anawsterau iechyd meddwl fel pryder ac iselder ac mae perygl uwch y byddant yn hunan-niweidio, oherwydd rhagfarn sydd ynghlwm â’u hunaniaeth. Mae llawer yn byw mewn ofn o gael eu cau allan a’u herlid.
Fel arwydd o’i gefnogaeth i fis Hanes LGBT, bydd y cyngor yn chwifio baner yr enfys tu allan i Neuadd y Dref.
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Pobl – Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Mae Wrecsam yn le i bawb. Rydym yn falch o ddathlu cynwysoldeb ac amrywiaeth a helpu codi ymwybyddiaeth am achosion LGBT”
Drwy gydol mis Chwefror, cynhelir gweithgareddau ar draws y DU i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo addysg ar faterion sy’n effeithio ar y gymuned LGBT. Dyma rai o’r digwyddiadau yng Ngogledd Cymru:
Fy mywyd yng Ngogledd Cymru yn Llyfrgell y Rhyl 18 Chwefror, 2:30 pm<0}
Sgwrs gan Jenny-Anne Bishop OBE ynglŷn â bod yn Drawsrywiol yng Ngogledd Cymru a’i diwylliant hanesyddol o amrywiaeth Rhywedd.
Diwrnod Gwybodaeth LGBT yn Llyfrgell y Rhyl, Chwefror 25, 2019 am 10am – 3pm.
Gwybodaeth am weithgareddau a chymorth sydd ar gael yng ngogledd Cymru a’r ardal gyfagos, gyda stondinau gan Viva LGBT, Rhwydwaith Drawsrywiol Unique, Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru a mwy.
I gael rhagor o wybodaeth ar Fis Hanes LGBT, gweler:
Siaradwr Cymraeg? Helpwch ni i wella ein gwasanaethau Cymraeg.
CWBLHEWCH EIN HYMGYNGHORIAD RŴAN