Mae Banc Lloegr yn gwahodd pobl o bob rhan o Ogledd Cymru i ddod i ddweud ei dweud am gyflwr yr economi mewn Panel Dinasyddion yn Wrecsam.
Bydd y panel yn gyfle i bobl siarad gydag uwch swyddogion Banc Lloegr am faterion economaidd sy’n effeithio arnyn nhw megis swyddi, banciau a chostau byw, ac yn gyfle hefyd i ofyn unrhyw gwestiynau am swyddogaethau’r Banc.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y digwyddiad sydd i’w gynnal gyda’r nos ar 25 Chwefror 2020 (rhwng 6 a 9 pm) wneud hynny rŵan ar wefan y banc.
Mae Banc Lloegr yn cynnal digwyddiadau panel o amgylch y DU fel rhan o’i ymdrech i ddeall yn well sut y mae’r economi’n perfformio a sut y mae pobl yn teimlo.
Hwn fydd yr ail banel o’r fath i gael ei gynnal yng Nghymru yn dilyn cyfarfod yng Nghaerdydd y llynedd.
Bydd y digwyddiad yn cael ei fynychu gan un o Gyfarwyddwyr Gweithredol y Banc, Gareth Ramsey.
Dywedodd: “Mae’r Panelau Dinasyddion yn fenter hollbwysig i Fanc Lloegr, sy’n ein galluogi i wrando’n uniongyrchol ar farn cymunedau a dinasyddion ar draws y DU am faterion economaidd sy’n effeithio arnyn nhw.
“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddod i Wrecsam i glywed am y mathau o bethau sy’n effeithio ar bobl o ddydd i ddydd, a hefyd i roi ychydig o wybodaeth am yr hyn y mae Banc Lloegr yn ei wneud.”
Mae ceisiadau i ymuno â’r panel, a fydd yn cynnwys tua 24 o bobl, yn cael eu derbyn rŵan a gall unrhyw un sy’n 18 oed neu drosodd wneud cais.
Dywedodd Steve Hicks, Asiant Banc Lloegr dros Gymru: “Rwy’n gobeithio y gallwn ddenu ystod eang o geisiadau i ymuno â’r panel er mwyn i ni glywed gan amrywiaeth mor eang â phosibl o leisiau.
“Dydych chi’n sicr ddim angen bod yn arbenigwr ar yr economi i gymryd rhan – mae’r economi’n effeithio arnom ni i gyd mewn gwahanol ffyrdd a’r safbwyntiau amrywiol hyn yw’r rhai y mae arnom eisiau eu clywed.”
Bydd y Panel yn cael ei gadeirio gan Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Dywedodd: “Rydw’i wrth fy modd cael cefnogi Banc Lloegr gyda’r fenter hon, sydd yn fy marn i yn un bwysig a gwerth chweil.
“Mae hwn yn gyfle unigryw i bobl o bob rhan o Gymru leisio eu barn ar y materion sydd o bwys i sefydliad â phwerau all gael effaith go iawn ar fywydau pobl.”
Os hoffech wneud cais neu os ydych eisiau rhagor o wybodaeth, ewch i www.bankofengland.co.uk/get-involved/citizens-panels . Gallwch hefyd gysylltu â Hope Gray ar 07712 324878.
Bydd yn rhaid i ddinasyddion roi ychydig o wybodaeth gefndir amdanynt eu hunain. Os ceir mwy o geisiadau nag sydd o lefydd, bydd yr ymgeiswyr yn cael eu dethol er mwyn sicrhau amrywiaeth y panel.
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN