Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Barod am noson allan dda yn Wrecsam? Yfwch lai a mwynhewch fwy
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Barod am noson allan dda yn Wrecsam? Yfwch lai a mwynhewch fwy
ArallPobl a lle

Barod am noson allan dda yn Wrecsam? Yfwch lai a mwynhewch fwy

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 16, 2017 10:42 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Outdoor Hospitality
RHANNU

Gall yfed gormod o alcohol droi noson dda yn un wael. Gallech fynd adre’n fuan. Mynd i drafferth. Neu gael eich brifo.

Cynnwys
  • Beth sy’n gwneud noson allan dda?
  • Arbedwch arian drwy wybod y ddeddf
  • Rhagor o wybodaeth

Felly heddiw caiff ymgyrch 2017 #YfedLlaiMwynhauMwy ei lansio’n swyddogol.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Mae pobl ifanc yn cael eu hannog i yfed llai gartref cyn mynd allan, yn ogystal ag yfed llai pan fyddant yn y bariau, tafarndai a chlybiau.

Mae llawer o bobl yn mwynhau mynd allan a chael ychydig o ddiodydd, ond os na allwch chi benderfynu pryd i droi am adref, mae ychydig o ddiodydd yn troi’n ormod o ddiodydd, rydych chi’n gwneud penderfyniadau gwael ac rydych chi’n fwy tebygol o ymddwyn yn ddrwg neu gael eich anafu.

Mae lle i gredu bod lefelau o yfed alcohol yn y grŵp oedran 18 i 30 yn cyfrannu at lawer o niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn yr ardal.

Fe allai hyn amrywio o ddifrodi eiddo neu yfed a gyrru, i ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymosodiadau rhywiol a threisgar. I nifer ohonom, gall mynd allan am ddiod fod yn rhan o ddathliadau’r Nadolig. Ond mae meddwi yn golygu eich bod yn llawer mwy tebygol o anafu eich hun…neu bobl eraill.

Beth sy’n gwneud noson allan dda?

Rydym eisiau pobl i’n helpu ni gydag astudiaeth ymchwil a fydd yn edrych ar ymddygiadau o ganlyniad i yfed alcohol a’r niwed cysylltiedig mewn ardaloedd bywyd nos.

Peidiwch â phoeni – mae’r holiadur yn gwbl gyfrinachol a dienw; does dim rhaid i neb roi eu manylion personol. Mae’n rhoi help i ni gael gwell dealltwriaeth o’r broblem a beth y gallwn ni ei wneud i fynd i’r afael ag o.

LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

Dywedodd Prif Arolygydd Wrecsam Dave Jolly: “Dydi ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy ddim wedi’i anelu at y bobl sydd yn yfed yn gyfrifol – mae yno i helpu i ddod o hyd i’r lleiafrif sydd wedi yfed gormod o alcohol ac a allai fod yn fod yn berygl i’w hunain neu i bobl eraill.

“Mae’n rhaid i bobl ofyn i’w hunain a ydynt eisiau i’w noson ddod i ben yn fuan am nad ydynt yn cael mynd mewn i far am eu bod wedi yfed gormod o alcohol yn rhy fuan.

“Yfwch yn gall a mwynhewch eich noson allan gyda’ch ffrindiau. Fel arall, fe allech ddifetha eu noson nhw hefyd os oes rhaid iddynt fynd a chi adre’n fuan.”

Arbedwch arian drwy wybod y ddeddf

Mae’r fenter hefyd yn anelu i godi ymwybyddiaeth o’r Ddeddf Trwyddedu 2003, sydd yn nodi ei bod yn anghyfreithlon i:

– Brynu alcohol i rywun sydd yn amlwg yn feddw
– I staff bar serfio rhywun sydd yn amlwg yn feddw.

Mae modd cael dirwy o hyd at £1000 am y ddwy drosedd ac mae’r eiddo trwyddedig sydd yn serfio pobl sydd yn amlwg yn feddw mewn perygl o golli eu trwydded. Serch hynny, mae ymchwil yn dangos mai dim ond hanner y bobl sy’n ymwybodol o’r gyfraith.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Chymuned yng Nghyngor Wrecsam: “Mae’n ymwneud â lleihau’r straen ar wasanaethau cyhoeddus megis yr heddlu, staff ambiwlans ac ysbytai mewn cyfnod pan maent eisoes dan bwysau eithriadol.
“Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol oherwydd alcohol yn arwain at economi’r nos wael ac awyrgylch drwg mewn tafarndai. Mae unrhyw beth y gallwn ni a’n partneriaid ei wneud i edrych ar yr achosion ac i annog pobl i roi’r gorau cyn iddo fod yn broblem yn help mawr”.

Gall meddwdod gael goblygiadau uniongyrchol ar iechyd megis gwenwyn alcohol, a gall gyfrannu at drais rhywiol, damweiniau a throseddau treisgar. Mae’n rhoi pwysau ar y gwasanaeth iechyd, yr heddlu a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Meddai Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Gall alcohol gael ei fwynhau’n ddiogel ac yn gyfrifol gyda ffrindiau a theulu’r cyfnod hwn. Dengys ymchwil nad yw mwyafrif o oedolion yn ymwybodol y gallant fod yn yfed dros y terfynau a argymhellir o 14 uned yr wythnos. Rydyn ni am i bobl wybod eu cyfyngiadau, meddwl mewn unedau a dod o hyd i ffyrdd o leihau eu heintiau wrth gael hwyl. Mae ein prif awgrymiadau’n cynnwys cyfnewid diodydd cryfder llawn i ddiodydd cryfder llai neu ddiodydd heb alcohol, archebu gwydrau llai a chael ddim alcohol am o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos.

Mae Cyngor Wrecsam wedi ymuno â Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Cynllunio Ardal, Prifysgol Glyndŵr a Choleg Cambria i gyflwyno ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy

Llenwch ein holiadur rŵan.

Rhagor o wybodaeth

Gall unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth am y niwed posibl y mae yfed yn ei achosi fynd i’r gwefannau hyn:

http://www.nhs.uk/Livewell/alcohol/Pages/Alcoholhome.aspx
https://www.drinkaware.co.uk/

Gall unrhyw un sy’n bryderus am faint maent yn ei yfed gysylltu â DAN 24/7, Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru ar Rhadffôn 0808 808 2234 neu www.dan247.org.uk

Rhannu
Erthygl flaenorol Oriel o wirfoddolwyr yn cymryd eiddo newydd, mwy o faint Oriel o wirfoddolwyr yn cymryd eiddo newydd, mwy o faint
Erthygl nesaf Gwasanaeth cyswllt bws newydd ar gyfer Canol y Dref Gwasanaeth cyswllt bws newydd ar gyfer Canol y Dref

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?
DigwyddiadauPobl a lle

Oes gennych chi sgript Dirgelwch Llofruddiaeth ynoch chi?

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English