Gall gormod o alcohol droi noson wych yn un wael. Gallai dorri eich noson yn fyr. Mynd i drafferth. Neu gael eich brifo. Gallai hyn oll newid eich bywyd er gwaeth.
Mae pawb yn cael eu hannog i dorri nôl ar faint maen nhw’n ei yfed gartref cyn mynd allan – yr hyn a elwir yn ‘gyn-yfed’ – yn ogystal â faint maen nhw’n ei fwyta wrth ymweld â bariau, tafarndai a chlybiau.
Mae digon o bobl yn mwynhau mynd allan a chael ychydig o ddiodydd, ond os byddwch chi’n methu â chydnabod pryd mae’n amser mynd adref, gall ychydig ddiodydd ddod yn ormod o ddiodydd, gall eich meddwl gael ei wyro ac rydych chi’n fwy tebygol o ymddwyn yn wael neu gael anaf.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Credir bod yfed alcohol ymhlith y grŵp oedran 18 i 30 yn eithaf uchel, a’i fod yn cyfrannu at lawer o niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn yr ardal.
Gallai hyn fod yn unrhyw beth o ddifrod i eiddo neu yfed a gyrru i ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymosodiadau rhywiol a threisgar. I lawer ohonom, gall mynd allan am ddiod fod yn rhan o ddefod Nadoligaidd. Ond mae meddwi yn golygu eich bod yn llawer mwy tebygol o niweidio’ch hun … neu eraill.
Beth sy’n gwneud noson allan dda?
Dywedodd yr Arolygydd Vic Powell: “Nid yw’r ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy wedi’i hanelu at y rhai sy’n yfed yn gyfrifol – mae yno i helpu i nodi’r lleiafrif o bobl sydd wedi cael gormod o alcohol ac a allai fod yn berygl naill ai iddyn nhw eu hunain neu i eraill.
“Mae angen i bobl ofyn i’w hunain a ydyn nhw am i’w noson ddod i ben yn gynnar oherwydd gwrthodwyd mynediad iddyn nhw i far oherwydd eu bod nhw wedi yfed gormod o alcohol yn rhy gynnar.
“Yfwch yn gall a mwynhewch eich noson allan gyda ffrindiau. Fel arall, efallai y byddwch chi’n difetha eu noson allan hwythau hefyd os bydd yn rhaid iddyn nhw fynd â chi adref yn gynnar.”
Arbedwch arian trwy wybod y gyfraith
Nod y fenter hefyd yw codi ymwybyddiaeth o Ddeddf Trwyddedu 2003, sy’n nodi ei bod yn anghyfreithlon:
– Prynu alcohol i rywun sy’n amlwg wedi meddwi
– I staff bar wasanaethu rhywun sy’n amlwg wedi meddwi.
Gellir cosbi’r ddwy drosedd gyda dirwy o hyd at £1000 ac mae eiddo y canfyddir iddynt wasanaethu pobl sy’n amlwg yn feddw hefyd mewn perygl o golli eu trwydded. Fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos mai dim ond hanner y bobl sy’n ymwybodol o’r gyfraith.
Gall meddwdod arwain at ganlyniadau iechyd uniongyrchol fel gwenwyn alcohol, a gall gyfrannu at drais rhywiol, damweiniau a throseddau treisgar. Mae’n rhoi baich mawr ar wasanaethau iechyd, yr heddlu a gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, aelod arweiniol Cyngor Wrecsam dros gymunedau, partneriaethau, gwarchod y cyhoedd a diogelwch cymunedol: “Mae hyn yn ymwneud â lleihau’r straen ar wasanaethau cyhoeddus fel yr heddlu, staff ambiwlans ac ysbytai ar adeg pan maen nhw eisoes dan bwysau enfawr .
“Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n cael ei danio gan alcohol yn creu economi gyda’r nos ac amgylchedd tafarn gwael. Mae unrhyw beth y gallwn ni a’n partneriaid ei wneud i edrych ar yr achosion ohono ac annog pobl i’w ffrwyno cyn iddo ddod yn broblem yn help mawr.”
Mwy o wybodaeth
Gall unrhyw un sydd eisiau mwy o wybodaeth am y niwed posibl a achosir gan yfed ymweld â’r gwefannau hyn:
http://www.nhs.uk/Livewell/alcohol/Pages/Alcoholhome.aspx
https://www.drinkaware.co.uk/
Gall unrhyw un sy’n poeni am eu hyfed gysylltu â Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol DAN 24/7 Cymru ar y rhif Rhadffôn 0808 808 2234 neu www.dan247.org.uk
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN