Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
DigwyddiadauPobl a lle

Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 9, 2025 2:44 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb –– Gweithgaredd Crefft Gofod Cynnes Wythnosol Am Ddim gyda Phryd Poeth!
RHANNU

Mae marchnadoedd, canolfan gymunedol a chelfyddydau Wrecsam, Tŷ Pawb, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn lansio rhaglen newydd o weithgareddau, gyda phrydau bwyd poeth a gweithgareddau am ddim.

Cynnwys
  • Darparu “cynhesrwydd, cefnogaeth a chysylltiad”
  • Crefftau, diodydd a phrydau poeth yn Tŷ Pawb

Yn lansio ar 11 Rhagfyr, mae Croeso Cynnes yn Tŷ Pawb yn brosiect Lleoedd Cynnes newydd a fydd yn cynnig cyfle i gyfranogwyr ddysgu sgiliau crefft newydd, mewn amgylchedd cymdeithasol hamddenol gyda diod boeth a phryd poeth am ddim.

Fel rhan o ymdrechion Cyngor Wrecsam i gefnogi trigolion trwy argyfwng costau byw, mae nifer o ‘lleoedd cynnes’ cymunedol wedi’u sefydlu yn Wrecsam. Mae’r rhain yn fannau cynnes sydd eisoes yn bodoli lle gall pobl ddod i aros yn gynnes, gan gynnwys deg o’n llyfrgelloedd a’r Hwb Llesiant.
Mae Croeso Cynnes wedi’i ariannu trwy Gronfa Grantiau Bach Lleoedd Cynnes er budd trigolion sy’n cael trafferth gyda chostau byw.

Darparu “cynhesrwydd, cefnogaeth a chysylltiad”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol â Chyfrifoldeb am Tŷ Pawb, y Cynghorydd Hugh Jones: “Gall fod yn anodd weithiau i lawer gadw’n gynnes a chael mynediad at gyfleoedd cymdeithasol a hamdden yn ystod misoedd y gaeaf. Drwy’r sesiynau hyn, ein nod yw cefnogi cyfranogwyr i deimlo’n dda, cael mynediad at y celfyddydau a chysylltu â’u cymdogion.

“Mae’r gweithgareddau newydd hyn yn ategu rhaglen bresennol Tŷ Pawb, sydd bellach yn cynnwys o leiaf un gweithgaredd dydd am ddim sy’n digwydd yn neuadd y farchnad bob dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid, y Cynghorydd Beverley Parry-Jones: “Mae’r rhaglen Lleoedd Cynnes yn darparu gwasanaeth hanfodol yn ein cymuned gan ddarparu nid yn unig lle diogel a chynnes i bobl, ond gan ein dwyn ynghyd drwy amrywiaeth o grwpiau a gweithgareddau rhagorol. Drwy raglenni fel y rhain yr ydym yn gwneud cyfeillgarwch newydd a all bara oes. Rwy’n gobeithio y bydd llawer yn manteisio’n llawn ar y gwasanaeth sydd ar gael”.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Nigel Williams: “Mae mannau cymunedol Wrecsam yn fwy na dim ond adeiladau; maent yn ganolfannau hanfodol o gynhesrwydd, cefnogaeth a chysylltiad. Maent yn cynnig hafan ddiogel i lawer pan fydd y tymheredd yn gostwng. Rhaid rhoi clod i’r holl dimau sy’n cymryd rhan yn rhaglen Mannau Cynnes y gaeaf hwn. Byddwn yn annog pawb i rannu’r wybodaeth hon fel bod pawb sydd mewn angen yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth hanfodol hwn.”

Crefftau, diodydd a phrydau poeth yn Tŷ Pawb

Bydd y Sesiynau Croeso Cynnes yn cael eu cyflwyno gan yr artist lleol profiadol Ceri Wright ac yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau creadigol gan gynnwys gweithio gyda phrint, collage a chlai. Darperir bwyd a diod yng Nghaffi Cwrt Amgueddfa Wrecsam (sydd wedi’i leoli yn Ardal Fwyd Tŷ Pawb tra bod yr amgueddfa newydd yn cael ei datblygu), trwy daleb a roddir i fynychwyr y sesiwn.

Bydd y prosiect yn rhedeg rhwng 10:30am – 12:00pm ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Iau 11eg o Ragfyr
  • Dydd Iau 18fed o Ragfyr
  • Dydd Mawrth 23rd o Ragfyr
  • Dydd Gwener 2il o Ionawr
  • Dydd Gwener 9fed o Ionawr
  • Dydd Gwener 16eg o Ionawr
  • Dydd Iau 22ain o Ionawr
  • Dydd Iau 29ain o Ionawr
  • Dydd Iau 5ed o Chwefror
  • Dydd Iau 12fed o Chwefror
  • Dydd Iau 19eg o Chwefror
  • Dydd Iau 26ain o Chwefror

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen hon, cysylltwch â:
teampawb@wrexham.gov.uk
01978 292144

Gallwch archebu ymlaen llaw i gadw lle ar dudalen Eventbrite Tŷ Pawb.

Ewch i wefan Tŷ Pawb am ragor o wybodaeth am eu holl weithgareddau sydd ar ddods

TAGGED:Ty Pawbwarm spaces
Rhannu
Erthygl flaenorol Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos Canmoliaeth i Ardd Gymunedol Rhos
Erthygl nesaf Parking Wrecsam v Watford – dewch i barcio a theithio

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English