Erthygl a gyhoeddwyd ar ran y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig
Gall Batris Botymau “ladd plentyn” os yw’n cael ei lyncu ar ddamwain, meddai Swyddfa Diogelwch a Safonau Nwyddau. Mae canllaw a gyhoeddwyd gan y swyddfa’n dilyn adroddiad a gyhoeddwyd gan y Gangen Archwilio Diogelwch Gofal Iechyd (HSIB) ddydd Iau, ar ôl marwolaeth merch fach tair oed llynedd, pan llyncodd hi fatri botwm 23mm.
Daeth adroddiad yr HSIB i ddarganfod, er bod rheoliadau diogelwch llym ar nwyddau megis teganau plant, nid oes rheoliadau cyfwerth i ddiogelu cydrannau batris ar eitemau’r cartref. Mae’r Swyddfa, mewn ymgynghoriad gyda’r HSIB wedi datblygu strategaeth ddiogelwch wedi’i thargedu, gan gynnwys rhoi strategaeth newydd ar y trywydd cyflym o fewn y maes hwn, a fydd yn edrych ar gasys nwyddau, yn ogystal â deunyddiau pecynnu ac arferion manwerthu diogel.
Mae’r Swyddfa’n annog rhieni i gymryd diogelwch eithriadol pan fydd plant yn defnyddio dyfeisiau electronig sy’n cynnwys batris botwm, ac i geisio sylw meddygol ar unwaith os yw plentyn yn llyncu un ar ddamwain.
Y camau syml i helpu diogelu plant o’r peryglon gan fatris botwm yw:
- Cadw batris sbâr yn ddiogel ac allan o gyrraedd plant. Peidiwch â’u gadael yn rhydd mewn drors neu ar arwynebau.
- Byddwch yn ofalus wrth agor pecyn amrywiol o fatris botwm rhag ofn iddynt ddisgyn ar y llawr.
- Dod i wybod ba deganau a theclynnau sy’n defnyddio batris botwm. Mae hyn yn cynnwys eitemau bob dydd megis: robot pryfyn neu deganau pysgod, fidget spinner gyda goleuadau LED, rheolyddion o bell sy’n denau, ffobiau goriadau car, cyfrifianellau, cloriannau, clustffonau gemau cyfrifiadurol, oriorau, cymhorthion clyw, goleuadau nos ac eitemau hwylus megis modelau o Siôn Corn sy’n canu.
- Gwiriwch eich cartref am eitemau sy’n cael eu pweru gan fatris botwm. Os nad yw cydran y batris wedi’i ddiogelu gan sgriw, symudwch yr eitem allan o gyrraedd plant ifanc. Os yw’r cydran yn ddiffygiol, mae’n rhaid ei drwsio neu ei waredu’n ddiogel. Gallwch adrodd teganau diffygiol i’r safonau masnach drwy Llinell Gymorth Cyngor ar Bopeth i Ddefnyddwyr.
- Dysgwch plant hŷn pam fod batris botwm yn beryglus a pam na ddylid eu rhoi i blant ifanc.
- Gwaredwch fatris botwm sydd wedi dod i ben yn syth. Mae plant yn aml yn dod o hyd i fatris botwm sydd wedi’u defnyddio yn gorwedd o gwmpas neu dan glustogau’r soffa. Gall batris botwm sydd wedi dod i ben fod â digon o bŵer ynddynt o hyd i anafu plentyn bach yn ddifrifol. Pan rydych yn tynnu batri, cadwch o’n ddiogel a’i ailgylchu’n briodol.
Er nad yw’n bosib dweud bob amser os yw plentyn wedi llyncu batri botwm, mae arwyddion rhybudd i edrych allan amdanynt.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Tagu
- Gagio
- Glafoeri
- Chwydu
Os ydych chi’n amau bod plentyn wedi llyncu batri, ewch â nhw yn syth i’r Uned Damweiniau ac Achosion Brys.
Peidiwch â rhoi unrhyw beth iddynt fwyta nac yfed, a pheidiwch â cheisio eu gwneud yn sâl, gall hyn wneud yr adwaith cemegol llawer gwaeth.
Dywedodd Prif Weithredwr y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig, Leon Livermore: “Mae’r canllaw a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa’n hanfodol i unrhyw un sy’n gofalu am blant ifanc. Ar oedran argraffadwy pan mae popeth yn mynd i’r geg, mae angen i ni sicrhau bod plant yn ddiogel rhag achosion sy’n berygl i’w bywydau. Rwy’n argymell yn gryf bod pawb yn rhannu’r canllawiau hyn i atal rhagor o farwolaethau.”
Nodwch mai yn Saesneg yn unig mae’r fideo
Am ragor o gyngor ar reoli peryglon batris botwm, ewch i:
www.capt.org.uk/button-batteries
www.rospa.com/button-batteries/
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN