Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canllaw Gweithgareddau Gwyliau’r Haf ar gael Rŵan
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Canllaw Gweithgareddau Gwyliau’r Haf ar gael Rŵan
Pobl a lleY cyngor

Canllaw Gweithgareddau Gwyliau’r Haf ar gael Rŵan

Diweddarwyd diwethaf: 2019/07/11 at 2:31 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
home schooling
RHANNU

Gan fod yr haf bron â chyrraedd mae ein cydweithwyr yng Ngwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam wedi llunio llyfryn sydd yn llawn o’r digwyddiadau a’r gweithgareddau sydd yn digwydd ar draws y fwrdeistref sirol.

“Rhesymol neu’n rhad ac am ddim”

Mae yna ddigonedd yn digwydd ar draws y fwrdeistref, o’r hen ffefrynnau fel nofio a diwrnod chwarae (7 Awst), i’r clwb ffilmiau i’r teulu yn Nhŷ Pawb, chwaraeon a gemau neu adeiladu gwestai i bryfaid. Cynhelir y digwyddiadau yn ein parciau gwledig, Amgueddfa’r Fwrdeistref Sirol, Tŷ Pawb, Llyfrgelloedd Wrecsam, eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yng nghanol y dref.

CYMRWCH RAN YN YR YMGYNGHORIAD AR GYNLLUN Y CYNGOR 20-22

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi: “Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn gwneud gwaith gwych yn creu’r llyfryn yma, ac fel rhiant fy hun, dwi’n gwybod pa mor ddefnyddiol ydi o. Mae’n ganllaw defnyddiol iawn i rieni a gofalwyr sydd yn gorfod diddanu eu plant dros wyliau’r haf”.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

“Mae hefyd gweithgareddau am ddim gan gynnwys llawer yn ein parciau gwledig sydd bob amser yn werth i chi ymweld â nhw.”

Rydym yn siŵr y byddwch yn gallu dod o hyd i rywbeth bob wythnos sydd naill ai’n rhesymol iawn neu am ddim ac yn addas ar gyfer pob oedran.

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam wedi’i leoli yn Galw Wrecsam, 16 Stryt yr Arglwydd Wrecsam ac maent ar gael i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth am ddim i rieni a gofalwyr plant 0-19 mlwydd oed a gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio gyda theuluoedd.  Maent ar agor yng Ngalw Wrecsam o ddydd Llun i ddydd Gwener 10:30am-2:30pm ac mae ganddynt lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael i deuluoedd. Galwch heibio neu tarwch olwg ar eu gwefan yma.

Os hoffech chi gael eich copi eich hun, anfonwch e-bost at fis@wrexham.gov.uk a byddant yn e-bostio copi atoch chi am ddim neu gallwch lawrlwytho eich copi yma.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma

DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN

Rhannu
Erthygl flaenorol Batris botwm yn berygl o farwolaeth posib i blant Batris botwm yn berygl o farwolaeth posib i blant
Erthygl nesaf Tools Spanner Saw Plumber Joiner Manteisiwch ar y cyfle hwn am brentisiaeth grefft gyda dwylo agored

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English