Wrth i Ddiwrnod Sant Ffolant agosáu bydd twyllwyr ar-lein yn ceisio twyllo’r rhai sy’n edrych am ramant i gael eu harian neu fanylion personol.
Mae mwy a mwy o bobl yn cwrdd â phobl ar-lein, ar rwydweithiau cymdeithasol, trwy chwarae gemau ar-lein, llwyfannau chwilio am gariad, unrhyw le ble gall pobl sgwrsio ar-lein – ac felly mae mwy a mwy o bobl yn datblygu perthnasau gyda phobl nad ydynt erioed wedi eu cyfarfod wyneb yn wyneb.
Mae chwilio am gariad ar-lein, er enghraifft, bellach yn un o’r ffyrdd mwyaf cyffredin i gwrdd â phartner rhamantaidd. Tra bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn rhai onest, yn anffodus mae rhai yn ceisio cymryd mantais o unigolion sy’n edrych am gariad.
Yn anffodus, mae twyllwyr wedi gweld sut y gallant gymryd maintais o hyn a nawr yn defnyddio proffiliau ffug, yn ffugio straeon, dylanwadu a chymell – oll gyda’r bwriad o greu cyswllt â rhywun diniwed ar y rhyngrwyd, gyda’r nod yn y pen draw i ddarbwyllo’r unigolyn diniwed i anfon arian atynt. Twyll rhamant yw hyn.
Ar gyfartaledd mae unigolyn yn colli £10,000 dros gyfnod y twyll. Yn 2021 roedd dros £99 miliwn wedi’i golli i dwyll rhamant.
Gall twyll rhamant ddigwydd i unrhyw un. Pob rhyw, oed, cyfeiriadedd rhywiol. Mae pobl o bob cefndir diwylliannol ac ethnig yn ddioddefwyr, dynion hoyw yn cael eu targedu’n anghymesur gyda 12.4% o’r holl ddioddefwyr yn 2021.
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Mae Twyll Rhamant yn broblem trwy’r flwyddyn ac mae wedi costio llawer iawn o arian i rai pobl. Gyda Diwrnod Sant Ffolant ar y gorwel mae’n amserol roi rhybudd arall i sicrhau nad oes unrhyw un yn dioddef.
“Byddwch yn wyliadwrus o weithgaredd amheus ac edrychwch am yr arwyddion isod os ydych yn ansicr. Peidiwch byth â rhoi arian neu fanylion personol dim ots pa mor berswadiol ydynt.”
Arwyddion o Dwyll Cariad:
- Cyn i chi wir ddod i’w hadnabod, maent yn datgan eu cariad yn gyflym.
- Maent yn gwneud esgusodion pam ma allant sgwrsio dros fideo neu gwrdd wyneb yn wyneb.
- Maent yn ceisio symud eich sgyrsiau yn gyflym oddi ar y llwyfan ble fu i chi gyfarfod.
- Pan fyddant yn gofyn am gymorth ariannol, bydd ar gyfer argyfwng critigol o ran amser, a bydd y rheswm yn mynd at eich calon.
- Efallai y byddant yn mynd yn amddiffynnol os ydych yn gwrthod helpu.
- Efallai y byddant yn dweud wrthych am gadw eich perthynas yn breifat ac i beidio â thrafod unrhyw beth gyda’ch ffrindiau a theulu.
Darllenwch fwy am hyn ar wefan CrimeStoppers.
Os ydych wedi dioddef Twyll Rhamant cysylltwch â Crimestoppers ar y ffôn neu ar-lein – ffoniwch am ddim ar 0800 555 111 neu ddefnyddio eu ffurflen ar-lein yma ar ein gwefan 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD