Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cylch Chwarae a Chlwb Llywodraethwyr Gresffordd yn derbyn Gwobr Genedlaethol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cylch Chwarae a Chlwb Llywodraethwyr Gresffordd yn derbyn Gwobr Genedlaethol
Busnes ac addysgY cyngor

Cylch Chwarae a Chlwb Llywodraethwyr Gresffordd yn derbyn Gwobr Genedlaethol

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 4:31 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cylch Chwarae a Chlwb Llywodraethwyr Gresffordd yn derbyn Gwobr Genedlaethol
RHANNU

Mae Cylch Chwarae a Chlwb Llywodraethwyr Gresffordd wedi derbyn Gwobr Genedlaethol Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r Cynllun Lleoliadau Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy yn gweithredu ledled Cymru ac mae’n cael ei reoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gefnogi’n lleol gan ein Tîm Ysgolion Iach.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Mae ennill y wobr yn golygu bod y grŵp wedi llwyddo i ddangos eu bod nhw wedi cyflawni camau gweithredu ar amrywiaeth eang o faterion iechyd yn cynnwys Maeth ac Iechyd y Geg, Gweithgarwch Corfforol/Chwarae’n Egnïol, Iechyd Meddwl ac Emosiynol, Lles a Pherthnasoedd, yr Amgylchedd, Diogelwch, Hylendid ac Iechyd a Lles yn y Gweithle.

Yn ogystal â chanolbwyntio ar y meysydd iechyd hyn, maen nhw hefyd wedi ennill ‘Gwobr Boliau Bach’ sy’n cydnabod y bwyd sy’n cael ei weini yn y lleoliad. Mae ganddyn nhw fan awyr agored gwych i blant chwarae a dysgu ynddo yn ogystal â safonau uchel o ran diogelwch a hylendid.

Dywedodd Louise Roberts, Swyddog Lleoliadau Cyn-ysgol Iach Cyngor Wrecsam: “Mae Cylch Chwarae a Chlwb Llywodraethwyr Gresffordd wedi dangos bod iechyd a lles cyffredinol plant a staff yn flaenllaw iawn yn y lleoliad. Mae amgylchedd y lleoliad yn hyfryd y tu mewn a’r tu allan.

“Maen nhw’n croesawu pob menter sy’n gallu helpu i ddylanwadu ar arferion yn y lleoliad a gwneud y profiad yn un arbennig iawn i staff a phlant. Rwy’n siŵr y byddan nhw’n parhau i hyrwyddo amgylchedd iach a hapus ar gyfer y plant a fydd yn derbyn eu gofal yn y dyfodol.”

Dywedodd Mr Richard Hatwood, Pennaeth ac Unigolyn Cyfrifol y lleoliad, “Rydym ni wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill y wobr hon, mae’n dyst i waith caled y staff yn y lleoliad, y berthynas gadarnhaol sydd gennym ni â rhieni a gofalwyr yn ogystal ag egni a brwdfrydedd ein plant bendigedig!

“Mae’r wobr hon yn arbennig iawn ac yn rhywbeth y mae’r staff wedi gweithio’n galed dros gyfnod hir i’w hennill. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Awdurdod Lleol am eu cefnogaeth nhw o ran mynd â’r lleoliad drwy’r rhaglen.”

Gresffordd

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol North Wales Adoption Service Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn lansio sesiynau holi ac ateb rhithwir misol
Erthygl nesaf Romance fraud and scams Osgoi Twyll Rhamant ar Ddiwrnod Sant Ffolant

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English