Os ydych chi’n cael trafferthion ariannol y Nadolig yma ac yn chwilio am ffyrdd i dalu’r costau ychwanegol hynny, plîs peidiwch â throi at y benthycwyr arian didrwydded.
Mae benthycwyr arian didrwydded yn gweithredu’n anghyfreithlon heb awdurdod credyd defnyddwyr ac yn targedu pobl ddiamddiffyn – naill ai oherwydd tlodi neu ddyled, neu oherwydd anawsterau yn eu bywydau fel dibyniaeth neu broblemau iechyd. Pan fo hi’n dipyn yn dynn ar bobl yn ariannol, mae cael cynnig arian parod – yn enwedig gyda’r Nadolig rownd y gornel – yn apelgar iawn.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru yw asiantaeth y llywodraeth sy’n ymchwilio i ac yn erlyn benthycwyr arian didrwydded. Mae’r uned yn rhybuddio pobl y bydd benthycwyr arian didrwydded yn twyllo’r rheiny sy’n benthyg arian drwy godi llog ofnadwy arnyn nhw; yn wir mae’r uned wedi clywed sôn am rai benthycwyr yn codi APR o 400,000%! Ar ben hynny, maen nhw’n codi taliadau cosb fel y mynnon nhw
“Mae help ar gael”
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu: “Nid yw’r benthycwyr yma’n rhoi gwaith papur yn egluro telerau’r benthyciad. Mae’n rhaid i chi barhau i’w talu’n ôl tan y maen nhw’n penderfynu y cewch chi stopio. Efallai eu bod nhw’n ymddangos fel eich ffrind gorau pan fyddan nhw’n cynnig y benthyciad, a phan fyddwch chi’n talu ond, os nad ydych chi’n gallu talu, mi fyddan nhw’n ychwanegu at y ddyled ac yn eich bygwth, eich dychryn ac yn ymosod arnoch chi i wneud yn siŵr eich bod chi’n talu. Un o’n prif bryderon yw lefel yr ofn; mae cymaint o ofn ar ddioddefwyr nes eu bod nhw’n rhy ofnus i roi gwybod i ni a gofyn am gymorth. I unrhyw un yn y sefyllfa yma, mae help ar gael. Gallwch roi gwybod i’r Tîm Benthyg Arian yn Anghyfreithiol yn gyfrinachol, ac fe allan nhw wedyn eich cynorthwyo chi a mynd i’r afael â’r troseddwyr.”
“Ond mae arna i angen cymorth dros y Nadolig, beth arall fedra i ei wneud?”.
Mae yna ffyrdd llawer rhatach a mwy diogel o dderbyn benthyciad – gallwch ddefnyddio eich Undeb Credyd.
- Ffurflen gais syml
- Penderfyniadau sydyn
- Cyfraddau llog isel
- Dim cosbau am ad-dalu’n gynnar
I ddarganfod mwy a sut i wneud cais ewch i https://www.cambriancu.com/cy/
Os ydych chi’n cael trafferth gyda dyled a ddim yn gwybod ble i droi, mae yna help ar gael i chi reoli’ch arian. Ffoniwch Cyngor i Ddefnyddwyr ar 03454040506.
Mae Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru yn annog trigolion Wrecsam i wneud yn siŵr bod unrhyw un sy’n cynnig benthyg arian yn meddu ar awdurdod credyd defnyddwyr. Os ydych chi wedi dioddef yn sgil benthyciwr arian didrwydded, neu os ydych chi’n credu bod yna un yn gweithredu yn eich ardal chi, ffoniwch yr Uned ar y llinell 24 awr: 0300 123 3311. Does dim rhaid i chi adael eich enw.
Bydd swyddogion cyswllt cleientiaid arbennig yn cefnogi ac yn cynorthwyo dioddefwyr, gan ddarparu cyngor ar ddyledion a phroblemau eraill. Meddai Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru: “Rhoddir rhybudd i fenthycwyr arian didrwydded, rydym ni’n benderfyno o ddifa’r math yma o drosedd.”
Gallwch anfon neges at yr Uned i imlul@cardiff.gov.uk neu ffonio 0300 123 3311 i dderbyn mwy o wybodaeth.
facebook.com/@stoploansharkswales
twitter.com/Stoploansharkswales
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN