Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Chwilio ar draws y byd am roddwr mêr esgyrn yn dod o hyd i rywun sydd yn cydweddu bron yn berffaith, ac sy’n byw dim ond 15 milltir i ffwrdd o gartref y claf.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Pontcysyllte aqueduct
Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Pobl a lle
Theatr Stiwt
Ysgolion Wrecsam yn ymuno: Cyngerdd codi arian ar gyfer apel Eisteddfod Genedlaethol 2025!
Arall
Rydyn ni'n chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
Rydyn ni’n chwifio’r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
food supply chain
Cwmni Wrecsam yn gyrru twf yng nghadwyn cyflenwi bwyd Cymru
Busnes ac addysg
funding
Cynllun grant newydd ar gael i fusnesau Wrecsam – gwnewch gais nawr!
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Chwilio ar draws y byd am roddwr mêr esgyrn yn dod o hyd i rywun sydd yn cydweddu bron yn berffaith, ac sy’n byw dim ond 15 milltir i ffwrdd o gartref y claf.
Pobl a lleArall

Chwilio ar draws y byd am roddwr mêr esgyrn yn dod o hyd i rywun sydd yn cydweddu bron yn berffaith, ac sy’n byw dim ond 15 milltir i ffwrdd o gartref y claf.

Diweddarwyd diwethaf: 2023/09/15 at 9:18 AM
Rhannu
Darllen 7 funud
Bone Marrow
RHANNU

Ar ôl pori trwy fwy na 40 miliwn o roddwyr mêr esgyrn gwirfoddol o’r Cofrestrfeydd ar draws y byd, daeth y claf Taisha Taylor, sy’n 15 oed, o hyd i rywun sy’n byw dim ond 30 munud mewn car o’i chartref.

Bellach yn 20 oed, fe wnaeth Taisha oresgyn anhwylder oedd yn amharu ar ei bywyd diolch i rodd mêr esgyrn achub bywyd gan ddieithryn llwyr, Kirsty Burnett, yn 2019. Ar gyfer Diwrnod Rhoddwyr Mêr y Byd (Medi 16), mae’r pâr yn rhannu eu stori i annog mwy o bobl i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru.

Cafodd Taisha, o Newbridge, ddiagnosis o’r anhwylder diffyg imiwnedd etifeddol prin, CGD (Chronic Granulomatous Disease) pan oedd yn blentyn. Mae gan bobl sydd â’r cyflwr systemau imiwnedd sy’n methu, sy’n gadael y corff yn agored i lid cronig ac o bosibl, heintiau sy’n peryglu bywyd. Taisha oedd un o’r menywod cyntaf yn y byd i gael ei diagnosio a diolch byth, eu hiacháu o’r cyflwr trwy drawsblaniad mêr esgyrn.

Oherwydd prinder y cyflwr, rhoddodd meddygon gynnig ar sawl triniaeth, gyda phob un ohonynt yn aflwyddiannus. Gobaith olaf Taisha oedd cael trawsblaniad mêr esgyrn. Ar ôl methu â dod o hyd i roddwr addas o fewn ei theulu, roedd Taisha yn dibynnu ar haelioni dod o hyd i roddwr mêr esgyrn oedd ddim yn perthyn iddi i gydweddu â hi.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Wrth siarad am ei salwch, dywedodd Taisha, “Roedd yn ofnadwy. O pan roeddwn i’n 10 oed, bob bore cyn paratoi ar gyfer yr ysgol, roedd angen i mi stretchio am tua 30 munud dim ond i sefyll i fyny a mynd i lawr grisiau.

“Dros y blynyddoedd, cefais lawer o driniaethau, ond doedden nhw ddim yn llwyddiannus, a dyna pryd gafodd yr opsiwn o drawsblaniad mêr esgyrn ei awgrymu.

“Dydy llawer o bobl ddim yn dod o hyd i rywun sy’n cydweddu, heb sôn am rywun sy’n cydweddu mor agos. Roeddwn i’n ffodus dros ben o glywed bod Kirsty wedi cael ei darganfod fel rhoddwr. Fe wnes i ddarganfod ei bod yn cydweddu mor agos, fel ei fod bron fel petai hi’n perthyn i mi,
sydd yn rhywbeth prin iawn. 

Ers hynny, mae Taisha wedi gwella’n llwyr diolch i haelioni ei rhoddwr, Kirsty.

Ymunodd Kirsty, sydd bellach yn 24 oed o Gasnewydd, â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru fel gwirfoddolwr yn ystod sesiwn rhoi gwaed a fynychodd.

Meddai Kirsty, “Fe wnes i gofrestru i fod ar y gofrestr mêr esgyrn pan oeddwn i’n 17 oed yn ystod fy rhodd gwaed cyntaf. Roedd yn broses syml; rhoddais ddau sampl gwaed ychwanegol, a dyna ni. Cefais fy ychwanegu at gronfa ddata fyd-eang o tua 40 miliwn o roddwyr gwirfoddol. Mae’r gronfa ddata honno’n cael ei phori gan glinigwyr ar draws y byd bob dydd am gleifion sydd angen rhywun i gydweddu a nhw. Doeddwn i ddim yn disgwyl clywed dim byd eto.

Yn dilyn cyfres o lythyrau dienw, fe wnaeth Taisha a Kirsty gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2021.

Ychwanegodd Taisha, “Nawr, mae Kirsty fel cael ffrind gorau a chwaer wedi’i rolio’n un.”

“Yn rhyfeddol, dydyn ni ddim yn siarad cymaint â hynny am y trawsblaniad. Mae hi’n rhan o’r teulu erbyn hyn.

“Roeddwn i eisiau bod yn ddawnswraig a gweithio gydag anifeiliaid, ond doeddwn i ddim yn gallu. Ond nawr, dwi’n gallu. ‘Dwi’n gobeithio bod Kirsty yn gwybod mai hi yw’r rheswm dwi yma yn byw’r bywyd na allwn ond ei ddymuno pan roeddwn yn eistedd ar y llawr yn gwneud yr ymarferion hynny bob bore.

“Mae gan bawb y cyfle hwnnw i gael eu paru ac o bosib achub bywyd rhywun. Mae fy mywyd wedi cael ei achub diolch i Kirsty. Buaswn yn annog pawb i gofrestru ar gyfer Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, a rhoi’r gobaith i rywun fel fi bod dyddiau gwell i ddod.

“Byddwch yn arwr i rywun fel mae Kirsty i mi.”

Mae Diwrnod Rhoddwyr Mêr Esgyrn y Byd yn fenter gan Gymdeithas Rhoddwyr Mêr Esgyrn y Byd. Mae cofrestrfeydd a chanolfannau trawsblannu ar draws y byd yn defnyddio’r diwrnod arbennig hwn i ddiolch i bob rhoddwr mêr esgyrn ar draws y byd.

Mae’n ddiwrnod i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau am y pwysigrwydd o gofrestru fel rhoddwr mêr esgyrn, ac effaith trawsblaniad mêr esgyrn ar fywyd claf.

Dywedodd Christopher Harvey, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, “Mewn geiriau syml, mae angen mwy o bobl ifanc arnom i ymuno â’n Cofrestr. Ar hyn o bryd, ni fydd tri o bob 10 claf yn dod o hyd i’r rhoddwr sydd ei angen arnynt, ac mae’r ystadegyn hwnnw’n codi i saith o bob 10 os ydych chi o gefndir du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig.

Mae dwy ffordd y gall pobl ifanc 17 i 30 oed ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, drwy ofyn am becyn swab ar-lein neu, fel Kirsty, wrth roi gwaed. Gallwch ddarganfod mwy drwy fynd i Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Ychwanegodd Christopher, “P’un a ydych chi’n gymwys i ymuno neu’n adnabod rhywun a allai fod yn gymwys i ymuno, siaradwch â phobl ifanc am y Gofrestr hon sy’n gallu newid bywydau, a helpwch i roi cyfle i fwy o gleifion oresgyn eu salwch.

“Mae sut mae mêr esgyrn yn cael eu defnyddio yn anhygoel, o helpu rhywun fel Taisha gyda Lupus, i helpu cleifion canser y gwaed i oresgyn eu clefyd. Mae angen cymaint o bobl â phosibl arnom i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwybodaeth Streiciau Undeb Unite – Y wybodaeth ddiweddaraf am Reoli Gwastraff 14/09/2023
Erthygl nesaf Biniau du Rhowch eich biniau du allan yr wythnos nesaf (18-22 Medi)

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Pontcysyllte aqueduct
Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Pobl a lle Mehefin 23, 2025
Theatr Stiwt
Ysgolion Wrecsam yn ymuno: Cyngerdd codi arian ar gyfer apel Eisteddfod Genedlaethol 2025!
Arall Mehefin 23, 2025
Rydyn ni'n chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
Rydyn ni’n chwifio’r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Mehefin 23, 2025
food supply chain
Cwmni Wrecsam yn gyrru twf yng nghadwyn cyflenwi bwyd Cymru
Busnes ac addysg Mehefin 23, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pontcysyllte aqueduct
Pobl a lle

Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mehefin 23, 2025
Rydyn ni'n chwifio'r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Rydyn ni’n chwifio’r faner ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog

Mehefin 23, 2025
aging couple
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Heneiddio’n Dda – cewch wybod mwy ar 26 Mehefin

Mehefin 20, 2025
Lucy Cowley
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Cyhoeddi rhestr fer dysgwr y flwyddyn Eisteddfod 2025

Mehefin 20, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English