Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Streiciau Undeb Unite – Y wybodaeth ddiweddaraf am Reoli Gwastraff 14/09/2023
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Streiciau Undeb Unite – Y wybodaeth ddiweddaraf am Reoli Gwastraff 14/09/2023
Y cyngorArall

Streiciau Undeb Unite – Y wybodaeth ddiweddaraf am Reoli Gwastraff 14/09/2023

Diweddarwyd diwethaf: Medi 14, 2023 2:51 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Gwybodaeth
RHANNU

Yn ystod y cyfnod presennol o weithredu diwydiannol (o ddydd Llun 4 Medi tan ddydd Sul 17 Medi), ni allwn fod yn sicr ynglŷn â’n hadnoddau tan ddechrau pob diwrnod.   Felly mae’n rhaid i ni wneud penderfyniadau dyddiol ynglŷn â gwasanaethau ac rydym yn gwneud ein gorau gyda’r hyn sydd ar gael i ni. 

Fodd bynnag, gan ein bod nawr yn ein hail wythnos o ‘streicio’ fe hoffem roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.  Fe fyddwn yn parhau i flaenoriaethu casglu eich gwastraff gweddilliol (h.y. eich bin du neu las), ac felly gosodwch eich gwastraff allan i’w gasglu ar eich diwrnod casglu arferol. Fodd bynnag, os nad yw’r casgliadau wedi eu casglu erbyn 3.30pm ewch â’r gwastraff yn ôl i’ch eiddo i’w gadw tan eich dyddiad casglu nesaf. Peidiwch â rhoi gwybod i ni am gasgliad a fethwyd gan na allwn ddychwelyd i gasglu unrhyw gasgliadau a fethwyd.

Yn anffodus ni fyddwn mewn sefyllfa i gasglu eich ailgylchu’r wythnos hon, felly rydym yn gofyn i chi barhau i gasglu hwn ar wahân i’w gyflwyno wrth ymyl y palmant pan fyddwn yn ôl yn gweithredu fel arfer.

Bydd Gwastraff Clinigol yn cael ei gasglu’r wythnos hon, fodd bynnag os oes yna oedi gadewch hwn yn y pwynt casglu arferol gan y bydd casgliadau yn digwydd.

Mae’r tair Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor fel arfer ac nid ydynt yn cael eu heffeithio gan y streic. Gellir derbyn gwastraff cyffredinol (na ellir ei ailgylchu) ac ystod eang o wastraff i’w ailgylchu gan gynnwys gwastraff gardd, bwyd, caniau, plastig a gwastraff swmpus. Cofiwch ddangos prawf o’ch cyfeiriad yn Wrecsam.

Yn anffodus gan ein bod yn parhau i fod ag adnoddau cyfyngedig i gynnal gwasanaethau, ni fydd y casgliadau Gwastraff Gardd a Gwastraff Masnachol yn cael eu casglu.
Mae casgliadau gwastraff swmpus hefyd wedi eu heffeithio ac ni ellir eu harchebu yn ystod cyfnod y streic.

Mae’n debygol y bydd gwasanaethau eraill yn cael eu heffeithio yn ystod yr wythnos, gan gynnwys gwagio biniau sbwriel ar y strydoedd. 

Bydd y camau hyn yn ein helpu ni i gynnal y gwasanaeth casglu gwastraff craidd yn ystod cyfnod y streic.

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a diolch i chi am eich amynedd.

Rhannwch y wybodaeth hon gyda’ch teulu, ffrindiau a’ch cymdogion.

Rhannu
Erthygl flaenorol Vapes Atafaelu gwerth £30,000 o e-sigaréts anghyfreithlon mewn siop yng nghanol y ddinas
Erthygl nesaf Bone Marrow Chwilio ar draws y byd am roddwr mêr esgyrn yn dod o hyd i rywun sydd yn cydweddu bron yn berffaith, ac sy’n byw dim ond 15 milltir i ffwrdd o gartref y claf.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Y cyngor

Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth

Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English