Ydych chi erioed wedi meddwl dechrau eich busnes eich hun a gwneud arian yn gwneud rhywbeth rydych yn ei fwynhau? Mae The Rebel School yn cael gwared ar y rheolau o ddechrau busnes fel y gall unrhyw un gychwyn busnes, waeth beth yw’r pwynt dechrau.
Nid yw o bwys os ydych yn chwilio am gymorth i ddechrau eich busnes, eisiau dysgu am fanylion fel cyfryngau cymdeithasol a threth, neu yn edrych ar opsiynau newydd. Gall The Rebel School eich helpu i ddechrau busnes heb arian a heb gynllun busnes, a chreu bywyd yr ydych eisiau.
Mae’r rhaglen yn cael ei gynnal rhwng 29 Ionawr tan 9 Chwefror 2024, ac yn cynnwys 10 sesiwn, gan gynnwys: sut i ddechrau am ddim, sut i greu gwefan am ddim, defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i gwsmeriaid, treth a chyfrifiadau a llawer mwy. Fe’u cynhelir yn Tŷ Pawb rhwng 10am – 3pm bob dydd ac mae AM DDIM. Mae nifer cyfyngedig o leoedd felly cofiwch gofrestru yn gyflym!
Os oes gennych ddiddordeb mewn pwnc ar ddiwrnod penodol o’r cwrs 2 wythnos, mae’n bosib i chi fynychu ar gyfer y diwrnod hwnnw yn unig.
Gallwch gofrestru a chael rhagor o wybodaeth yma: www.therebelschool.com/wrexham
Beth yw’r Rebel Business School?
Mae The Rebel Business School yn gwneud pethau’n wahanol!
Does dim darlithoedd a llyfrau diflas. Maent yn ymdrin â’r pethau go iawn wrth gychwyn busnes o’r newydd.
Maent eisiau eich helpu chi greu bywyd a busnes yr ydych eisiau heb ddyledion, a heb yr angen i wario arian.
Sut mae’n gweithio?
Mae’r cwrs wyneb yn wyneb yn cynnwys deg sesiwn gyda chynnwys ymarferol a fydd yn rhoi sgiliau i chi, canlyniadau a rhwydwaith gefnogi i gychwyn eich busnes a dechrau gwneud arian.
Wythnos Un
- Dydd Llun – Sut i Gychwyn Busnes am Ddim
- Dydd Mawrth – Gwerthu a Marchnata
- Dydd Mercher – Sut i greu Gwefan heb Ddim arian
- Dydd Iau – Dod o hyd i Gwsmeriaid ar Gyfryngau Cymdeithasol
- Dydd Gwener – Canllaw The Rebel i’r Pethau Cyfreithiol
Wythnos Dau
- Dydd Llun – Meistroli Cyflwyno a Chadw Cwsmeriaid
- Dydd Mawrth – Cynhyrchiant a Rhwydweithio’n Effeithiol
- Dydd Mercher – Rhoi eich Gwefan ar Google
- Dydd Iau – Dal ati a Hyfforddiant Busnes Byw
- Dydd Gwener – Trafod a Graddio
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Mae hwn yn gwrs sydd yn gwneud gwahaniaeth ac mae eu cyfradd llwyddo yn rhagorol.
“Os oes gennych syniad am fusnes neu eisoes yn cynllunio i fynd eich hun, edrychwch ar sut y gallai’r cwrs hwn eich helpu i weithredu eich syniadau.”
Gallwch gofrestru a chael rhagor o wybodaeth yma: www.therebelschool.com/wrexham
Ariennir y cwrs gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Busnes arbennig o dda
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch