A ydych chi’n gweithio ac yn rhiant i blentyn 3 neu 4 oed? Ydych chi’n ennill llai na £100k?
Gall y rhan fwyaf o rieni sy’n gweithio sydd â phlant 3 i 4 oed hawlio arian tuag at gost gofal plant.
Rydyn ni eisiau gwneud bywyd fymryn yn haws i rieni sy’n gweithio, p’un a yw hynny’n golygu ychydig o arian ychwanegol bob mis neu roi mwy o hyblygrwydd i chi o ran sut a phryd rydych yn gweithio.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Beth sy’n cael ei gynnwys yn y Cynnig?
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru Llywodraeth Cymru yn golygu y gall y rhan fwyaf o rieni sy’n gweithio sydd â phlant 3 i 4 oed hawlio cyllid tuag at gost gofal plant.
Mae hyn yn golygu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru ar gyfer rhieni cymwys.
Mae’r 30 awr yn cynnwys o leiaf 10 awr o addysg gynnar yr wythnos, ac 20 awr ar y mwyaf o ofal plant yr wythnos.
Mae ar gael am 48 wythnos y flwyddyn, sy’n golygu y gall y Cynnig eich helpu gyda gofal plant dros rai cyfnodau o wyliau ysgol.
Beth bynnag mae’r Cynnig yn ei olygu i chi a’ch teulu – peidiwch â cholli’r cyfle i gael cymorth y llywodraeth gyda gofal plant.
Mae Cynghorau Wrecsam a Sir y Fflint yn cydweithio i ddarparu’r Cynnig Gofal Plant yn Wrecsam. Gall rhieni Wrecsam wirio a ydynt yn gymwys ac ymgeisio ar-lein drwy’r system ar-lein ar y cyd a gaiff ei gweinyddu gan Gyngor Sir y Fflint ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn Wrecsam.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn Wrecsam, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam trwy ffonio 01978 292094, neu e-bostiwch fis@wrexham.gov.uk
CANFOD Y FFEITHIAU