Dyma wythnos lawn olaf y gwyliau haf, ac yma fe ddewch chi o hyd i’r hyn sy’n digwydd yn y Fwrdeistref Sirol er mwyn i chi fanteisio arno!
Agorwch eich dyddiadur a chymerwch olwg ar y rhestr isod!
Dydd Iau, 31 Awst
Wrecsam Egnïol – Pêl-droed Merched
9 Acre Field, Wrecsam.
Oedran cynradd 9.30am -12.30pm ac Oedran uwchradd, 1pm – 3pm.
I archebu lle e-bostiwch activewrexham@wrexham.gov.uk
Dydd Iau, 31 Awst
Wrecsam Egnïol- Tennis,Parc Belleview, (galw heibio a chwarae)
Oedrannau 5-11, 2pm-4pm
I archebu lle, e-bostiwch activewrexham@wrexham.gov.uk
Dydd Iau, 31 Awst
Wrecsam Egnïol – Aml-Chwaraeon Cynhwysol, Ysgol Sant Christopher
Oedrannau 7-16, 10am -12pm
I archebu lle, e-bostiwch activewrexham@wrexham.gov.uk
Dydd Gwener, 1 Medi
Sesiynau crefft yr haf i blant yn Llyfrgell Cefn Mawr
Bob dydd Gwener tan 1 Medi
2-3pm
Oedrannau 4-10
Am ddim ond mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw gyda Seren neu Anna drwy ffonio 01978 820938
COFIWCH…
Gall plant o dan 16 oed hefyd nofio am ddim ac mae yna sesiynau chwarae am ddim ar draws y Fwrdeistref Sirol, tarwch olwg ar yr erthyglau yma i gael mwy o wybodaeth:
Mae nofio am ddim dros wyliau’r haf yn ôl!
Mae’n hwyl, mae am ddim, ac fe all pethau fod yn flêr! Amser i chwarae trwy gydol yr haf…