Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Beth mae’r cynnydd yn y gyfradd Budd-dal Plant yn ei olygu i chi
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Beth mae’r cynnydd yn y gyfradd Budd-dal Plant yn ei olygu i chi
Pobl a lleArall

Beth mae’r cynnydd yn y gyfradd Budd-dal Plant yn ei olygu i chi

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 2, 2024 1:45 pm
Rhannu
Darllen 8 funud
Child Benefit
RHANNU

Bydd miliynau o deuluoedd sy’n hawlio Budd-dal Plant yn cael taliadau uwch yn awtomatig o 6 Ebrill 2024 ymlaen, mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi cadarnhau.

Bydd teuluoedd ag un plentyn nawr yn cael hyd at £1,331 y flwyddyn – cynnydd blynyddol o £83.20, a hyd at £881 y flwyddyn fesul plentyn ychwanegol – cynnydd blynyddol o £54.60. Nid oes terfyn ar nifer y plant y gall teuluoedd hawlio ar eu cyfer.

Bydd rhieni’n cael £102.40 bob 4 wythnos (£25.60 yr wythnos) ar gyfer y plentyn cyntaf neu’r unig blentyn a £67.80 bob 4 wythnos (£16.95 yr wythnos) ar gyfer pob plentyn ychwanegol.

Nid oes angen i deuluoedd sydd â hawliadau parhaus gysylltu â CThEF, gan y bydd y taliad budd-dal cynyddol yn parhau i gael ei dalu’n uniongyrchol i’w cyfrifon banc. Gall unrhyw un sydd angen diweddaru eu manylion personol, fel newid cyfrif banc neu gyfeiriad, wneud hynny drwy ddefnyddio ap CThEF neu ar-lein ar GOV.UK.

Anogir rhieni sydd â babi newydd-anedig i wneud cais ar-lein cyn gynted â phosibl a gallent gael eu taliad cyntaf mewn cyn lleied â thri diwrnod. Gall hawliadau Budd-dal Plant gael eu hôl-ddyddio am uchafswm o dri mis.

Meddai Angela MacDonald, Dirprwy Brif Weithredwr ac Ail Ysgrifennydd Parhaol CThEF, “Mae’r cynnydd mewn cyfraddau Budd-dal Plant ar gyfer hawlwyr presennol yn awtomatig ac nid oes angen i deuluoedd gysylltu â ni. Dylai hawlwyr newydd hawlio ar-lein neu drwy ddefnyddio ap CThEF. Chwiliwch am ‘Budd-dal plant’ ar GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth.”

Mae CThEF yn atgoffa rhieni sydd eto i fanteisio ar Fudd-dal Plant ei bod yn gyflym ac yn hawdd hawlio ar GOV.UK neu drwy ap CThEF, y gellir ei ddefnyddio i wneud y canlynol:

  • gwneud cais ar-lein  
  • ôl-ddyddio hawliadau am hyd at 3 mis 
  • ychwanegu babi newydd at hawliad 
  • rhoi gwybod i CThEF am newid mewn amgylchiadau  
  • diweddaru manylion h.y. newid cyfeiriad/manylion banc 
  • bwrw golwg dros neu argraffu’ch tystiolaeth o hawl i Fudd-dal Plant 

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, ni fydd teuluoedd lle mae’r cyflog uchaf â chyflog o hyd at £60,000 y flwyddyn yn destun Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel (HICBC). Yn flaenorol, byddai unigolyn ag incwm blynyddol o £50,000 neu fwy yn agored i dalu’r tâl os oedd ef neu eu partner yn cael Budd-dal Plant.

I’r rhai sy’n ennill rhwng £60,000 ac £80,000, mae swm y Budd-dal Plant y mae ganddynt hawl i’w gael yn lleihau wrth i incwm gynyddu o fewn yr ystod hon. Os yw incwm unigolyn yn fwy na £80,000, bydd yr HICBC yn hafal i’r taliad Budd-dal Plant. Gall rhieni sy’n gwneud hawliad ac yna’n dewis optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant gael credydau Yswiriant Gwladol os nad yw un rhiant yn gweithio.

Gall rhieni sydd ag incwm dros £50,000, sy’n adfer eu Budd-dal Plant cyn 6 Ebrill 2024, fod yn destun taliadau HICBC os ydynt yn dewis dechrau taliadau ym mlwyddyn dreth 2023 i 2024. Ar gyfer hawlwyr newydd sy’n hawlio Budd-dal Plant ar neu ar ôl 6 Ebrill 2024, bydd unrhyw rwymedigaethHICBC yn seiliedig ar drothwy newydd 2024 i 2025 o £60,000 i £80,000.

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar GOV.UK. Chwiliwch am ‘Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.’

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol windows and doors Rhaglen Gosod Ffenestri a Drysau newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dod yn ei blaen yn dda er gwaethaf heriau cyllidebol
Erthygl nesaf Op Darwen Heddlu’n lansio Ymgyrch Darwen 2024

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 21, 2026
Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English